Iktsuarpok
Un rhan hen o’r hyn a aeth
Yn aros - dyna hiraeth.
(James Nicholas; 1928-2013)
Perthyn i bob iaith geiriau na ellid yn llwyr a llawn eu cyfieithu i iaith arall. Yn y Gymraeg mae gennym ‘Hiraeth’. Bu’r gyfres hon o fyfyrdodau yn ymdrin â nifer o’r geiriau rheini. Daw’r olaf o’r Inuit: Iktsuarpok. Gorwedd ystyr Iktsuarpok rhywle rhwng diffyg amynedd a hir ddisgwyl. Efallai mai’r ddihareb ‘Hir yw pob aros’ sydd yn crynhoi orau ystyr Iktsuarpok. Iktsuarpok sydd yn eich symud i’r ffenest, tro ar ôl tro, i weld os yw’r ymwelydd hir disgwyliedig wedi cyrraedd o’r hir hir ddiwedd. Mae’r enghraifft olaf hwn yn fachyn cyfleus i osod llun gan Salvador Dali (1904-1989): Girl standing at the Window neu Figure at a Window (1925)
Aros. Mae aros - Iktsuarpok - a gobeithio; naddu breuddwydion a hogi dyheadau yn rhan annatod o’r hyn ydym fel pobl Dduw.
Iktsuarpok: aros, gobeithio, dyheu, breuddwydio am gyfiawnder ... a heddwch.
‘Rwy’n gweld o bell y dydd yn dod
bydd pob cyfandir is y rhod
yn eiddo Iesu mawr ...
(Watcyn Wyn, 1844-1905. 257CFf)
Mi wn yn iawn fod cant a mil o wahanol syniadau am bwy yw hon, ac am beth ... neu bwy ... mae hi’n aros, ond bob tro dw i’n gweld y llun hwn dw i’n meddwl am yr eglwys yn aros ... Iktsuarpok pobl Dduw. Mae hi’n syllu dros y dŵr i’r lan. Mae hi’n canolbwyntio ar y tir pell. Mae hi’n chwilio am yr awgrym lleiaf o symud, cadarnhad fod ei hanwylid ar ei ffordd. Mae hi’n barod. Bu hi’n barod ers yn hir. Hir bu’r aros hwn: Iktsuarpok.
Cyfnod o aros yw’r Adfent. Cyfle i sefyll wrth ffenest agored ein ffydd, a syllu dros fôr ein cred tua’r lan fan draw - pa bryd y daw? O tyred di, Emanŵel,/a datod rwymau dy bobl. (Emyn Lladin o’r 18fed Ganrif. cyf. J.D.V.Lewis 1879-1970. 432CFf)
Syllwn drwy ffenest Air disglair Duw (Graham kendrick. cyf. Casi Jones 228CFf), dros fôr y newyddion beunyddiol, da a drwg, gan ymbaratoi i groesawu’r hwn sydd yn dod. Fe ddaw. Hir yw’r aros - Iktsuarpok - ond fe ddaw.
Lliw'r Adfent yw glas tywyll, dwfn - union liw'r nos cyn i belydrau cyntaf y wawr sbarduno’r ceiliog i gyhoeddi gwawrio diwrnod newydd sbon. Benthycwn brofiad Watcyn Wyn (1844-1905) yn sbardun i fyfyrdod pellach a gweddi:
Mae teg oleuni blaen y wawr
o wlad i wlad yn dweud yn awr
fod bore ddydd gerllaw;
mae pen y bryniau’n llawenhau
wrth weld yr haul yn agosáu
a’r nos yn cilio draw.
(OLlE)