Yn ystod yr Ail Ryfel Byd gofynnodd rhywun i feddyg yn Llundain beth fyddai’n ei wneud bob nos pan ddechreuai bomiau'r Natsïaid syrthio ar y ddinas. "Darllen Salm 91 cyn mynd i’r gwely ac aros yno doed a ddelo", oedd yr ateb. ‘Roedd ei ddewis o ddarlleniad yn addas, a diau i eiriau’r Salmydd leddfu ofnau’r meddyg a dod â chysur iddo pan wynebai ddychryn y nos (Salm 91:5) a’r pla sy’n tramwyo yn y tywyllwch (Salm 91:6).
Thema Salm 91 yw ffydd yng ngallu a pharodrwydd Duw i amddiffyn rhag niwed y sawl sy’n aros yn ei gysgod, ac i ddileu ei ofnau. Addewid o amddiffyn, a sicrwydd o ofal yw'r Salm hon. Y mae'r Salm fwy tebyg i bregeth na darn o farddoniaeth. Ei diben yw calonogi’r credadun a’i wahodd i ymddiried yn yr Arglwydd. Yn y rhan gyntaf (1-13) ceir addewid o nodded: ... i ti, bydd yr ARGLWYDD yn noddfa; gwnaethost y Goruchaf yn amddiffynfa ... bydd yn cysgodi drosot â’i esgyll, a chei nodded dan ei adenydd ... (Salm 91:9,4).
Yn yr ail ran (14-16) ceir sicrwydd o’r addewid hwnnw o enau Duw ei hun: ... byddaf fi gydag ef mewn cyfyngder, gwaredaf ef a’i anrhydeddu (Salm 91:15). Sylwn wrth ddarllen nad addo y mae Duw i gadw’r ddrycin draw, ond addo y bydd ef yno i roi lloches pan ddaw. Yn ei wendid a’i bryder caiff y Salmydd brofi nodded Duw: Pan fydd yn galw arnaf, fe’i hatebaf ... (Salm 91:15a).
F'Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen.
(OLlE)