Gŵyl y Diniweidiaid
Mathew 2:13-18
Jeremeia 31:15
Heddiw cofiwn am blant Bethlehem a laddwyd gan Herod. Pan fethodd y sêr-ddewiniaid ddychwelyd at y brenin a rhoi gwybod iddo ble cai hyd i Iesu, aeth yn gandryll.
O dan ddylanwad carolau swynol, cardiau lliwgar, moeth a hwyl ein Nadolig, mae’n hawdd iawn inni feddwl mai i fyd tangnefeddus y ganwyd Iesu. Nid felly. I fyd Herod y daeth, i’n byd ni; byd real o ddicter a dial, rhyfel a gwae. Nid oes cadarnhad o unrhyw ffynhonnell arall i’r hanes alaethus am ladd plant bach Bethlehem, ond mae’r creulondeb yn gydnaws â chymeriad Herod Fawr. ‘Roedd hwn yn ddiarhebol o ddrwgdybus a didostur, ac wrth sôn am y gwallgofrwydd daw wylofain a galaru dwys Rachel i gof Mathew. Pam Rachel? Oherwydd mai mam oedd hi, mam Jacob a Benjamin, un o famau enwocaf Israel. Ym Methlehem y claddwyd hi. Wylo yr oedd hi, meddai Jeremeia, wrth weld plant Israel yn mynd i’r gaethglud. Mae’n wylo eto, meddai Mathew, wrth weld plant Bethlehem yn cael eu lladd. Yr un yw’r gwae ar draws yr oesoedd. Yr un yw galar mam.
Heddiw cofiwn am blant Bethlehem a laddwyd gan Herod. Pam?
Onid peth naturiol yw ceisio anghofio pethau drwg? Yn wir, mae arnom ni gyd weithiau, angen ceisio anghofio’r drwg sydd gymaint rhan o’n byw a’n bod!
Heddiw cofiwn am blant Bethlehem a laddwyd gan Herod. Rhaid gwneud hynny. Rhaid cofio fod lladd a galar yn rhan annatod o stori geni Iesu, ein Harglwydd. Ganed Iesu mewn bedd - bedd y bechgyn a laddwyd ym Methlehem. Os digwydd inni esgymuno’r hanes gwaedlyd hwn rhag gweddill hanes y Nadolig, mae’r Nadolig yn colli’i ystyr; bydd cân yr angylion 'tangnefedd ymhlith pobl …’ (Luc 1:14b) yn colli’i ystyr, canys byddwn wedi ceisio anghofio fod cysgod Herod yn ddychryn ar draws ein dydd a’n hoes. Os gwnawn hynny mae Herod yn cael rhwydd hynt i fynd ati’n brysur i geisio dileu’r goleuni a dadwneud y geni.
Felly nid ewyllys eich Tad, yr hwn sydd yn y nefoedd, yw bod un o’r rhai bychain hyn ar goll (Mathew 18:14).
(OLlE)