Ar Sul olaf y flwyddyn, mawr ein diolch i Dduw am y gofal a fu drosom. Ein cyd-aelod, y Parchedig Menna Brown oedd yn cynnal yr oedfa heddiw. Diolch iddi am oedfa gyfoethog, a sbardun o fyfyrdod â ninnau'n troi i wynebu blwyddyn newydd o waith a chenhadaeth. Echel myfyrdod Menna oedd y cwpled cyfarwydd sydd yn glo i‘r garol hyfryd hwnnw gan Christina Rosetti, 1830-94, cyf. Simon B. Jones, 1894-1964:
Ganol gaeaf noethlwm
cwynai'r rhewynt oer,
ffridd a ffrwd mewn cloeon
llonydd dan y lloer:
eira'n drwm o fryn i dref,
eira ar dwyn a dôl,
ganol gaeaf noethlwm
oes bell yn ôl.
Mae’r ail bennill yn ddatganiad hyderus o fawredd Duw:
Metha nef a daear
gynnwys ein Duw;
ciliant hwy a darfod
pan fydd ef yn llyw:
ganol gaeaf noethlwm
digon beudy trist
i'r Arglwydd hollalluog,
Iesu Grist.
Mae’r pennill olaf yn gofyn arnom i ymateb i fawredd Duw a’i gariad:
Beth a roddaf iddo,
llwm a thlawd fy myd?
Pe bawn fugail rhoddwn
orau'r praidd i gyd;
pe bawn un o'r doethion
gwnawn fy rhan ddigoll;
ond pa beth a roddaf?
Fy mywyd oll.
Mynnai Menna mai hanfod yr Adfent yw disgwyl - buom yn disgwyl am y Gair yn gnawd; buom yn prysur baratoi ac ymbaratoi go gyfer a dyfodiad yr Arglwydd hollalluog/Iesu Grist. Hanfod y Nadolig yw dathlu. Buom yn dathlu; rhaid oedd dathlu! Wedi’r cyfan... daeth Duwdod mewn baban i’n byd (Jane Ellis, bl. 1840; CFf.:472). Awgrymodd Menna fod y dathlu hwn yn blueprint i weinidogaeth a chenhadaeth eglwys Minny Street i’r flwyddyn galendr newydd hon.
...pa beth a roddaf? yw cwestiwn Christiana Rosetti.
Ein cwestiwn ninnau? Pa beth a roddwn i Dduw yn 2016?
Yr un ateb sydd i’r naill gwestiwn a’r llall, gan mai dim ond un ateb sydd. Dyma’r unig ymateb priodol: Fy mywyd oll.
Nid mater o orchymyn yw gweinidogaeth yr eglwys leol. Nid pleidlais mwyafrif sydd yn ei benderfynu. Mae’n rhaid i bobl weld, deall a chydio yn y weinidogaeth honno drostynt eu hunain. Dibynna ein gweinidogaeth ar ein parodrwydd i osod ein hunain, o’r newydd, ar allor gwasanaeth i Dduw a’i bobl ym mhob man.
...pa beth a roddaf?
Fy mywyd oll.
Un ffordd siŵr o ddiffodd tân yw peidio rhoi dim arno! Os yw tân ein gweinidogaeth a’n gwasanaeth i Grist yn mynd i losgi am flwyddyn arall, does dim amdani ond ei borthi. Mae’r tanwydd i gael mewn oedfa, astudiaeth Feiblaidd, cwrdd gweddi, trafodaeth, cymdeithas a chwmnïaeth. Y peth pwysig yw cadw’r tân rhag diffodd:
...pa beth a roddaf?
Fy mywyd oll.
Ni fydd Oedfa Hwyrol ym Minny Street
Gan ddechrau heddiw - Dydd Gŵyl Ioan yr Efengylwr - byddwn yn cynnig cyfres o fyfyrdodau byrion yn seiliedig ar Efengyl Ioan. Ym mhob un, ceir awgrym o ddarlleniad, a myfyrdod bychan, bachog yn seiliedig ar yr adnodau rheini. Bydd y myfyrdod yn ymddangos yn ddyddiol o ddydd Sul Rhagfyr 27ain hyd at ddydd Mawrth Ynyd (9/2/2016) ar ein cyfrif trydar @MinnyStreet
Wynebwn y flwyddyn newydd gyda’n gilydd a gyda hyder. Gwnaed yr Arglwydd hi yn flwyddyn dda inni yn yr ystyr orau.