‘O DEUWN OLL YNGHYD …’

Er bod Cymru bellach wedi cwblhau'r symudiad i gyfyngiadau Lefel 1 erys yr
anghenraid i gadw pellter cymdeithasol a gwisgo gorchudd wyneb ym mhob lle
cyhoeddus dan do, ynghyd â'r anogaeth i sicrhau hylendid dwylo. Yn unol â
chanllawiau Llywodraeth Cymru, byddwn, felly, yn parhau i gydaddoli yn y
capel gan gadw yn fanwl at y canllawiau a rheoliadau. Mae'r angen i gadw
pellter yn parhau i gyfyngu'n sylweddol ar nifer y gynulleidfa a all fod yn
y capel a rhaid felly bydd dilyn y cyfarwyddiadau manwl a ddosbarthwyd i'r
aelodau. Gan na fydd pawb o'n haelodau mewn ffordd i ystyried mynychu'r
addoliad yn y capel, parhawn hefyd gyda'r trefniant sydd yn ein galluogi i
ddilyn yr addoliad trwy gyfrwng Zoom.

Boed bendith ar weinidogaeth y Parchedig D. Aled Davies, Chwilog yn ein plith bore
Sul Gorffennaf 25ain am 10:30.