Er bod Cymru bellach yn dechrau symud o Gyfyngiadau Lefel 2 i Lefel 1 erys yr anghenraid i gadw pellter cymdeithasol a gwisgo gorchudd wyneb ym mhob lle cyhoeddus dan do, ynghyd â’r anogaeth i sicrhau hylendid dwylo. Yn unol â chanllawiau Llywodraeth Cymru, byddwn, felly, yn parhau i gydaddoli yn y capel gan gadw yn fanwl at y canllawiau a rheoliadau. Mae’r angen i gadw pellter yn cyfyngu’n sylweddol ar nifer y gynulleidfa a all fod yn y capel a rhaid felly bydd dilyn y cyfarwyddiadau manwl a ddosbarthwyd eisoes i’r aelodau. Gan na fydd pawb o’n haelodau mewn ffordd i ystyried mynychu’r addoliad yn y capel, parhawn hefyd gyda’r trefniant sydd yn ein galluogi i gyd-addoli drwy gyfrwng y taflenni addoli a ddosbarthwyd, ynghyd â chynnig cyfle i ddilyn yr addoliad trwy gyfrwng Zoom.