Yr oedd y plentyn yn tyfu ac yn cryfhau yn ei ysbryd; a bu yn yr anialwch hyd y dydd y dangoswyd ef i Israel. (Luc 1:80 BCN)
‘Drychwch: yr un bach. Pwy fase ‘di meddwl? Fy mychan i yw hwn. Ie, gwyrth ydyw; dysglaid o ddirgelwch. Rhodd annisgwyl fy henaint hir.
Siarad? Siarad a chwerthin fel nant barablus, y pwtyn bach. Bu’n hir yn hau synau, ond yn sydyn wedyn medi geiriau: ‘coed’; ‘ffrwyth’; ‘tân’; ‘sandalau’.
‘Syllwch. A welsoch y fath lygaid erioed? Llygaid fel toriad dydd. A rhaid wrth lygaid barcud gyda hwn! Weithiau fe aiff e’n ysgafn draw i ymyl yr anialwch gan sefyll yno’n gyffro i gyd, fel un yn clywed.
(OLlE)