Salm 42
DYHEAD: i’r Cristion agwedd meddwl, naws enaid yw DYHEAD; rhyw gosfa losg, dreiddgar wrth wraidd ein ffydd.
Gair bach cymen yw DYHEAD; gair tyner a chryf a phenderfynol yw DYHEAD - yn fwy sylweddol ‘na eisiau; yn ddyfnach na angen, yn fwy brathog na dymuniad.
Mae awdur Salm 42 yn dewis defnyddio’r gair DYHEAD i ddisgrifio ein perthynas â Duw - Fel y dyhea ewig am ddyfroedd rhedegog, felly y dyhea fy enaid amdanat ti, O Dduw. Mae’r sawl sy’n caru Duw yn dyheu amdano, yn methu bodoli hebddo.
Mae’n anodd siarad am DDYHEAD, am DDYHEU heddiw oherwydd tueddwn i ystyried DYHEAD fel rhywbeth y mae’n rhaid ei wireddu. Mae dyheu am rywbeth yn drafferth, yn boen - yr unig falm i boen dyhead yw gweld ei wireddu, a hynny cyn gynted ag y bo modd.
Anodd felly yw gorfod sylweddoli, a chyhoeddi mae hanfod ein perthynas â Duw yw DYHEAD. Nid boddhad sydyn, llwyr a llawn o’n hangen amdano ond DYHEAD dwfn, sydd yn ond cael ei wireddu tamaid bychan bach wrth damaid bychan bach. Ni ellir diwallu’r dyhead am Dduw ond â Duw ei hun.
Wrth gydnabod ein DYHEAD am Dduw cydnabyddwn nad ydym wedi darganfod Duw, cydnabyddwn fod angen rhagor o Dduw arnom: cydnabyddwn ein dibyniaeth arno.
Dyma sydd yn gwneud perchen ffydd yn wahanol i bawb arall. Mae dyhead yn ei anesmwytho, yn cosi traed ei enaid, yn peri iddo chwilio chwilio, twrio twrio, chwalu a phalu nes diwallu ei syched am Dduw: Fel y dyhea ewig am ddyfroedd rhedegog, felly y dyhea fy enaid amdanat ti, O Dduw.
F'Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen.
(OLlE)