"Henffych well, tydi, yr un y rhoddodd Duw ei ffafr iddi!" (Luc 1:28 BCN)
"Gogoniant Duw wyt ti", meddai hwn.
Angel.
Annisgwyl ydoedd; ‘does neb yn disgwyl gweld Angel.
Angel annisgwyl â neges annisgwyl: finnau’n disgwyl.
Beichiog wyf.
Newid byd, newydd fyd.
Bore trannoeth, â finnau’n ceisio cydio eto yn yr hen bethau, ildio eto i’r hen rythmau, symud eto ar hyd rhigolau cyfarwydd bywyd ... sylweddolais na fydd y cyffredin byth eto’n gyffredin.
"Ti a esgori ar y Gair", meddai Gabriel.
(OLlE)