'Munud i Feddwl' ein Gweinidog
30/11: Dygwyl Andreas Sant. Gwell dechrau gyda’r hyn a wyddom amdano: nawddsant yr Alban ers canol yr 8fed ganrif; y cyntaf o’r apostolion i gael ei gofio ym mlwyddyn yr Eglwys. Andreas oedd y disgybl cyntaf, a’r cenhadwr cyntaf. Yn ôl Ioan, bu Andreas yn ddisgybl i Ioan Fedyddiwr cyn dewis dilyn Iesu (Ioan 1:35-42). Y peth cyntaf a wnaeth yn sgil dewis dilyn Iesu oedd annog ei frawd, Simon Pedr i ddod at y Crist (1:41), ond gwnaeth fwy na dim ond annog, sylwch: daeth ag ef (Pedr) at Iesu. Gwelir cyfuniad o’r gair a’r weithred yn Andreas: cenhadwr.
Er gwaethaf bob tueddiad i ddrysu ac ymddrysu am ystyr y geiriau: cenhadu, cenhadon, cenhadaeth, ystyr syml sydd iddynt: arwain eraill at Iesu. Hynny, yn syml yw cenhadu: arwain pobl, mewn gair a gweithred, at Iesu - hynny, dim ond hynny yw cenhadaeth y cenhadon. Y cenhadu hwn yw anadl-einioes y wir eglwys. Ein cenhadaeth, os caf aralleirio gweddi Sant Rhisiart o Chichester (c.1197-1253) yw galluogi eraill, ynom a thrwom, i weld Duw ‘yn eglurach’, ei ‘garu’n anwylach’, a’i ‘ddilyn yn dynnach o ddydd i ddydd’ (gweler CFf. 988).
Cenhadaeth pob Cristion yw cyflwyno Crist i bobl, a phobl i Grist, ac wrth wneud hynny fe ddown ein hunain i’w ddilyn Ef ‘yn dynnach’, ei ‘garu’n anwylach’ a’i ‘weld yn eglurach’. Dyma baradocs oesol y ffydd: wrth ei rannu, ehanga. Wrth ei gadw, crebacha. Dyma, mi gredaf, yw neges a her Andreas Sant; llesol yw oedi munud i ystyried pwysigrwydd hyn.
(OLlE)