Dros y Sul, ein braint fel eglwys fydd cael gwrando cenadwri a derbyn arweiniad gan y Parchedig Hywel Wyn Richards (Pen-y-bont ar Ogwr). Gwyddom y cawn ganddo bregethu meddylgar a phregethau buddiol a bendithlawn. Yn ôl ein harfer, bydd yr Oedfa Foreol am 10:30. Cynhelir yr Ysgol Sul, a bydd ein plant a phlantos yn parhau i ymdrin â Ffrwyth yr Ysbryd, gan ganolbwyntio y tro hwn ar 'Garedigrwydd'. Bydd yr Oedfa Hwyrol am 18:00. Gweddïwn am wenau Duw ar Oedfaon y Sul.
Cymdeithas Ddiwylliannol Eglwys Minny Street (Nos Lun 27/2; 19:30 yn y Festri): Dathlu Gŵyl Dewi - dathliad arbennig yng ngofal ein Gweinidog ac aelodau PIMS.
Bethania nos Fawrth (28/2; 19:30-21:00). Diolch i Rhun am ein croesawu. Y thema yw ‘Cyfeillion Paul’. Testun ein y sylw yn cyfarfod hwn bydd Philemon ac Onesimus.
Babimini bore Gwener (3/1; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae a chwerthin. Gorffwysed bendith ar Fabimini. ‘Rydym yn ddyledus i’r rheini sy’n rhoi o’u hamser i gynnal y fenter bwysig hon.
Dydd Gweddi Fyd-eang y Chwiorydd (3/3; 14:00): gwasanaeth ar y thema Ydw i’n annheg â thi? yn Eglwys Dewi Sant - cymerir rhan gan chwiorydd o nifer o eglwysi Cymraeg Caerdydd.
Dydd Mercher (1/3), priodas Llinor ac Emyr.
Dydd Sadwrn (4/3), priodas Nia a Gary.
... ar ddydd eu priodas pura’u serch â’th gariad dwyfol, drud. (Tudor Davies; CFf:635).
Pythefnos Masnach Deg: o 27 Chwefror 2017 i 12 Mawrth 2017
Cymerodd Eglwys Minny Street y cam o gofrestru fel Eglwys Masnach Deg mewn Cwrdd Eglwys a gynhaliwyd ar Nos Sul, 5 Rhagfyr 2004. Bu’r eglwys yn weithgar yn yr ymgyrch hon ers nifer o flynyddoedd cyn hynny ond dros y degawd diwethaf sicrhaodd mai dim ond nwyddau Masnach Deg/Fairtrade a ddefnyddir ym mhob agwedd o waith yr eglwys, bu’n cymryd rhan mewn nifer o ymgyrchoedd Masnach Deg, a bu’n hyrwyddo ystod eang o nwyddau sydd bellach yn cario label Masnach Deg.
Mewn arolwg diweddar canfuwyd bod 78% o boblogaeth gwledydd Prydain yn adnabod logo Masnach Deg/Fairtrade. Yn wir, cyfrifir y logo, y label moesol mwyaf cyfarwydd yn ein plith. Yn anffodus, cyfaddefodd dros 50% o’r rhain nad oedd ganddynt y syniad lleiaf beth oedd arwyddocâd y logo, na chwaith pam y dylent fod yn prynu nwyddau yn arddel y label. Yn fwy siomedig oedd bod nifer o’r atebwyr hyn yn Gristnogion. Mae’n amlwg bod gennym fel Cristnogion ffordd bell i fynd i ddarbwyllo nid yn unig ein cyd-ddinasyddion ond hefyd ein cyd-Gristnogion o’n dyletswyddau tuag at ein cyd-ddyn.
Er bod sawl un o’r archfarchnadoedd bellach yn gwerthu nwyddau Masnach Deg, megis te, coffi siocled a bananas, teg dweud bod llawer o’r cynhyrchwyr teuluol a gwledig yn dibynnu ar siopau bychain ar y Stryd Fawr i werthu eu nwyddau trwy fudiad Fairtrade. Un o’r siopau hynny yw Fair Dos/Siopa Teg, ar Heol Llandaf, Treganna. Mae gan y siop hon gysylltiad agos ag Eglwys Minny Street; mae’n cefnogi cynhyrchwyr bychain trwy werthu nwyddau Fairtrade a hefyd archebu nwyddau megis crefftau a chardiau cyfarch Cymraeg yn uniongyrchol o gynhyrchwyr yn Affrica.