Llai, ond llon y cwmni heno! Daeth 6 ynghyd i drafod y rhif ‘9’. Ffrwyth yr Ysbryd oedd testun ein sylw, gan ddechrau gyda chwis - 9 cwestiwn syml ddigon. Rhowch gynnig ar y ddau gwestiwn isod:
Pa gyfartaledd o ‘Melon Ddŵr’ sydd yn ddŵr?
a) 34%
b) 80%
c) 66%
ch) 92%
Cantores opera o Awstralia oedd Nellie Melba (1861–1931); pa ffrwyth sydd yn y pwdin a enwyd ar ei hôl?
a) Mefus
b) Eirin Gwlanog
c) Gellygen
ch) Eirinen
Wedi’r cwis, troi at Galatiaid 5:22, darllen yr adnod a gweithio fesul dau i geisio cofio cymaint o’r naw a phosib, a throi at y daflen waith. Y dasg? Dileu pob peth ond Ffrwyth yr Ysbryd!
Wedi ffurfio dau grŵp, trafodwyd yn fras ystyr, gwerth ac arwyddocâd y naw, cyn dewis un neu ddau i ganolbwyntio arnynt. Dewis Amy, Ioan a Shani oedd ‘Daioni’.
Aeth y bechgyn - Connor, Osian ac Ifan - i’r afael â ‘Cariad’ a ‘Llawenydd’. Ffrwyth ei gwaith oedd y ddau ‘bwrdd du’.
Wedi’r gwaith caled, daeth syrpreis! Trefnwyd - mae’n Ŵyl y Banc wedi’r cyfan! - ymweliad â 'Coco Gelato', parlwr hufen ia lleol. Anodd oedd dewis, ond dewis bu’n rhaid! Wedi’r gwaith caled, mwynhad a gafwyd!
Yr atebion? '92%' a 'Eirin Gwlanog'