Mae’r siopau’n drwch o sgerbydau, gwrachod, llygod mawr a gwe pry cop! Mewn fawr o dro bydd ellyllon hyll-rychiog, gwrachod gwyrdd-walltog, draciwlâu, zombies a fampiriaid yn crwydro’r strydoedd: ‘Cast ynteu Geiniog?’, Trick or Treat?
Un o bennaf nodweddion Calan Gaeaf yw gwastraff.
Hoffwn ddyfynnu un o aelodau hynaf ac anwylaf eglwys Minny Street, â hithau’n dyfynnu ei mam: ‘Mae bradu bwyd yn bechod’. Ystyr ‘bradu’ wrth gwrs yw ‘gwastraffu’. Affetig ydyw, mae’n debyg, ar afradu. Dysgais neithiwr, fod gair ‘affetig’ wedi colli’i sillaf ddechreuol: trodd ‘afradu’ yn ‘bradu’ felly. ‘Mae bradu bwyd yn bechod’, ac fe fradir trwch o fwyd pob Calan Gaeaf.
Fel pobl yr UDA, yr ydym ninnau hefyd yng Ngwledydd Prydain yn diberfeddu pwmpen er mwyn creu llusernau danheddog. Ond, yn wahanol iawn i bobl yr UDA - sydd yn gwneud defnydd da o gnawd y bwmpen - ein tueddiad yma Ngwledydd Prydain yw taflu’r cnawd i’r bin! Bob Calan Gaeaf gwastraffir dros 18,000 tunnell o fwyd da a thra maethlon. Hawdd ddigon buasai crintach a chwyno, ond gwell buasai cynnig rysáit. Darparwyd y rysáit yn garedig iawn gan un o’n haelodau, Beca Lyne-Pirkis. Diolch yn fawr iddi. Rhannwch y rysáit â’ch cyfeillion a chymdogion. Ceir copi Saesneg ar y wefan http://www.boroughmarket.org.uk
Ydi, ‘mae bradu bwyd yn bechod’, felly, ‘rowch eich brat amdanoch, torchwch lewys a pharatoi Pei Bwmpen Beca: gwaith bychan a phleserus i atal mymryn ar wastraff arferol y Calan hwn.
Pei Pwmpen Beca
Ar gyfer y crwst pei
200g fflŵr plaen
½ llwy de o halen
115g o fenyn heb halen - yn oer ac wedi ei dorri mewn i giwbiau
4-5 llwy fwrdd o ddŵr oer
Pei Pwmpen
170g o siwgr caster
½ llwy de o halen
1 llwy de o bowdr sinamon
½ llwy de o bowdr sinsir
¼ llwy de o glof (ground cloves)
2 wy mawr
400g o Bwmpen wedi rhostio - tuag 1 pwmpen maint canolog
350ml Llaeth twym
Dull
Rhowch y fflŵr, halen a’r menyn mewn prosesydd bwyd a’i falu nes ei fod yn edrych fel briwsion bara. Ychwanegwch 4-5 llwy fwrdd o ddŵr yn araf tra bod y peiriant yn troi nes bod y toes yn sticio at ei gilydd. Diffoddwch y prosesydd a rhowch y toes ar fwrdd wedi ei orchuddio gydag ychydig o fflŵr. Gweithiwch y toes nes ei fod yn esmwyth.
Rhowch fwy o fflŵr ar y bwrdd a rholiwch y toes allan i faint eich plât pei (tua 8-9 modfedd). Irwch eich plât pei a rhowch y toes i mewn, gan wneud yn siŵr ei fod yn ffitio yn iawn. Torrwch unrhyw does oddi wrth yr ochrau, gan adael tua 1.5cm dros ben. Plygwch hwn dros ei hun, gan ddefnyddio eich bysedd i ‘grimpio’ yr ochrau. Rhowch yn yr oergell i oeri tra byddwch chi’n gwneud y llenwad.
I wneud y llenwad, yn gyntaf rhostiwch y bwmpen mewn ffwrn dwym - tua 180C am 30 munud. 'Does dim rhaid tynnu croen y bwmpen i ffwrdd ar hyn o bryd, jyst torrwch mewn i ddarnau tua modfedd o drwch, rhowch ychydig o olew dros y darnau a'u rhostio. Ar ôl yr hanner awr mi fydd e’n hawdd crafu’r bwmpen i ffwrdd o’r croen, yna defnyddiwch fforc i falu’r bwmpen yn fan a llyfn.
Cymysgwch y siwgr, halen a’r sbeisiau mewn powlen fach. Curwch yr wyau mewn powlen fwy a chymysgwch fewn y bwmpen gyda’r siwgr a’r sbeisys. Yn araf, cymysgwch y llaeth twym i mewn ac yna arllwyswch bopeth i gragen y pei.
Pobwch mewn ffwrn ar 200C fan/220C/Marc nwy 7 am 15 munud. Ar ôl yr amser yma trowch y tymheredd i lawr i 160C fan/180C/Marc nwy 4 am 40-50 munud, neu nes bod cyllell yn dod allan o’r pei yn lân! Gadewch i oeri am 2 awr. Gallwch ei weini yn syth, neu ei roi yn yr oergell.