ABIGAIL (1) 1 Samuel 25: 1-31
Yn blwmp ac yn blaen, ‘roedd Nabal yn ffŵl o ddyn! Yn ôl pob tebyg ‘roedd ganddo fwy o arian na synnwyr. Tra oedd ar ffo, yn cuddio rhag Saul, bu Dafydd yn gwarchod bugeiliaid Nabal a’i breiddiau. Onid rhesymol oedd disgwyl ychydig o fwyd a diod fel arwydd o werthfawrogiad? Pan glywodd Dafydd fod Nabal yn mynd i gynnal gwledd, anfonodd Dafydd negeseuwyr ato, gan ddisgwyl gwahoddiad i’r wledd. Gwylltiodd Nabal a gwrthod! Pan glywodd Dafydd fod Nabal wedi gwylltio, gwylltiodd yntau!
Fel sydd yn wir yn aml, ‘roedd gan y gŵr ffôl wraig gall: Abigail! Wedi clywed am ffolineb Nabal, ni wastraffodd eiliad, casglodd, pentyrrodd a llwythodd bob math o fwyd a diod, a chychwyn allan i gyfarfod â Dafydd. Pan welodd Dafydd yn agosáu, brysiodd i ddisgyn oddi ar ei hasyn a syrthio wrth ei draed. Dyma glasur o gyfarfod! Gyda geiriau dethol a chymedrol mae hi’n tawelu’r storm; gyda’i mwyneidd-dra mae’n lleddfu llid. Cafodd Dafydd ei swyno ganddi, yn llwyr ac yn gyfan. Cymerodd y rhodd, ac addo na fyddai niwed yn dod i gartref Nabal.
ABIGAIL (2) 1 Samuel 25: 32-44
Pan gyrhaeddodd Abigail yn ôl adref, ‘roedd Nabal yn feddw dwll! Penderfynodd Abigail beidio dweud dim wrtho hyd y bore. Pan glywodd Nabal, cafodd gymaint o fraw, daeth salwch sydyn drosto. Bu farw ddeg diwrnod yn ddiweddarach!
Gwnaeth dyfeisgarwch a gonestrwydd, craffter a phrydferthwch Abigail argraff fawr ar Dafydd. ‘Roedd rhywun oedd yn medru lleddfu ei dymer wyllt a’i gadw rhag gwneud ffŵl o’i hun yn berson werth ei chael wrth ei ochr. Pan glywodd fod Nabal wedi marw, fe aeth yn ôl ati a phriododd hi. Faint o ddylanwad gafodd Abigail ar Dafydd? Ni wyddom! Gwyddom i sicrwydd nad aelwyd hapus oedd aelwyd Dafydd; mae’n siŵr fod ddigon o alw wedi bod ar Abigail i leddfu tymer wyllt a thawelu storm.
Yng nghyd-destun yr hyn a wyddom am Abigail, trafoder y ddihareb a’r adnod isod:
Mam doethineb yw callineb.
Gwyn eu byd y tangnefeddwyr. (Mathew 5: 9a)