Dysg i mi dy ffordd, O Arglwydd (Salm 27:11a)
Taith yw’r Grawys. Taith anodd yw hi, ac anodd iawn fu’r daith yr wythnos aeth heibio; buom yn llusgo’n ffordd trwy ddrygioni, casineb a marwolaeth; ond heddiw, gwyddom mai daioni, cariad, bywyd - y tri hyn - a orfu.
Yn ei lyfr ar Efengyl Ioan mae William Temple yn rhoi pennawd addas iawn i'r ddwy bennod olaf sy'n disgrifio'r Atgyfodiad - The Dawn. Y Wawr - dechreuad newydd a bendigedig! Ar fore’r Pasg fe ddaeth goleuni i chwalu tywyllwch angau; goleuni i goncro tywyllwch ofn ac ansicrwydd; goleuni i ddinistrio'r tywyllwch sy’n difetha bywyd.
Boed i ni fod yn bobl sydd yn gweld y golau hwnnw: ei weld ym mhrofiadau bywyd, da a drwg; ac o’i weld, byw yn ei lewyrch, ac o fyw ynddo, ymgysegru iddo, oherwydd Iesu yw’r golau - goleuni’r byd, goleuni ein bywyd.