CAPERNAUM

Pan aeth hi’n hwyr, aeth ei ddisgyblion i lawr at y môr, ac i mewn i gwch, a dechrau croesi’r môr i Gapernaum. Yr oedd hi eisoes yn dywyll...Yna, wedi iddynt rwyfo am ryw dair neu bedair milltir, dyma hwy’n gweld hwy’n gweld Iesu... (Ioan 6: 16,17 a 19)

Wedi awr a hanner o sŵn a miri PIMS, daeth cyfle i ymdawelu! Ffurfiwyd cylch clyd o gadeiriau: ymlonyddu yng nghwmni’r Proffwyd (Eseia 60:2-3;18-20) a’r Salmydd (Salm 8:3-8), a throi wedyn at destun ein sylw heno: Gweddi Daniel (Daniel 2: 14-23). Dyma emyn o gasgliad Robert Jones, Llanllyfni, 1851:

Ymgrymwn oll ynghyd i lawr

Gerbron gorseddfainc gras yn awr;

 pharchus ofn addolwn Dduw;

Mae'n weddus iawn - awr weddi yw.

 

Awr weddi yw, awr addas iawn

I draethu cwynion calon lawn;

Gweddïau'r gwael efe a glyw

Yn awr yn wir - awr weddi yw.

 

Dy Ysbryd, Arglwydd, dod i lawr

Yn ysbryd gras a gweddi nawr

I'n gwneud yn wir addolwyr Duw;

Mawl fo i ti - awr weddi yw.

Sylwch ar gwpled agoriadol yr ail bennill:

Awr weddi yw, awr addas iawn

I draethu cwynion calon lawn ...

Mae Robert Jones yn gwbl gywir: addas iawn, mewn gweddi yw traethu cwynion calon lawn ... ond, mae’r awr weddi hefyd yn gyfle a chyfrwng i draethu gorfoledd buddugoliaethus ein ffydd. Dyna a geir yn Llyfr Daniel. Ysgrifennwyd Llyfr Daniel tua chanol yr ail ganrif cyn Crist pan oedd brenin Syria wedi ymosod ar Jerwsalem. Nid oedd gorchfygu’r wlad yn ddigon iddo, rhaid hefyd oedd gorchfygu ysbryd y bobl, ac i’r diben hwnnw, fe waharddodd gadw’r Sabath a darllen yr Ysgrythurau; halogodd y Deml trwy godi yno allor i ddelw ac aberthu moch arni. Cynnal a chefnogi’r bobl, wrth iddynt geisio ymateb i hyn oll, oedd bwriad awdur llyfr Daniel. Gwna hynny trwy adrodd helyntion y ffyddloniaid dewrion gynt: Daniel a’i gyfeillion yn y gaethglud ym Mabilon; Daniel yn dehongli breuddwyd Nebuchadnesar; Daniel yn y ffau llewod; gwledd Belsassar a Sadrach, Mesach ac Abednego yn y ffwrnais dân. Wrth wraidd y storïau hyn, bob un, mae pobl Dduw, yn Nuw, yn goroesi. Dyna neges Llyfr Daniel, a neges ydoedd i bobl Jerwsalem, a hwythau dan bawen drom y Syriaid.

Yn y weddi hon o eiddo Daniel, mynegir hyder ffydd; traethu’r gorfoledd a llawenydd. Sylwch felly:

Mae Duw yn teyrnasu: Bendigedig fyddo enw Duw yn oes oesoedd; eiddo ef yw doethineb a nerth. Ef sy’n newid amserau a thymhorau, yn diorseddu brenhinoedd a’u hadfer ... Ceir adlais o hyn yn Emyn Mawl Mair: tynnodd dywysogion oddi ar eu gorseddau ... (Luc 2:52a). Bob amser, er waethaf pob peth, a thrwy gyfrwng bob peth mae Duw yn teyrnasu.

Mae Duw yn arddel ei bobl: Diolchaf a rhof fawl i ti, O! Dduw fy nhadau, am i ti roi doethineb a nerth i mi. Bu Duw ar waith ddoe - fy nhadau - ond mae Duw ar waith yn y presennol; ei weithgarwch achubol ym mhob presennol yw gobaith ei bobl i bob dyfodol.

Arwain hynny at y peth olaf: Mae Duw yn ymyrryd i achub. Dangosais i mi yn awr yr hyn a ofynnwyd gennym, a rhoi gwybod inni beth sy’n poeni’r brenin. Cafodd Daniel wybod, gan Dduw beth oedd yn poeni’r brenin. O’r herwydd, daeth cyfle newydd, gobaith newydd, hyder newydd. Mae Duw yn ymyrryd i achub, ac wrth wraidd ein ffydd ninnau mae’r bennaf ymyrraeth: ... daeth y Gair yn gnawd a phreswylio yn ein plith, yn llawn gras a gwirionedd; gwelsom ei ogoniant fel unig Fab yn dod oddi wrth y Tad (Ioan 1:14).

Awr weddi yw, awr addas iawn

I draethu cwynion calon lawn ...

Ie, ac awr addas iawn hefyd i draethu gorfoledd y galon lawen. Mae ein Duw yn teyrnasu. Mae Duw yn arddel ei bobl, a Duw ar waith ydyw, yn ymyrryd i’n cynnal a’n cadw. Daeth ein hegwyl o weddi i ben yn sŵn hyfryd eiriau Iesu (Ioan 15:13-15).

'Capernaum': diolch am gylch o gwmni a gweddi, a’r cyfan yn echelu’n esmwyth ar sicrwydd bendigedig y geiriau: Canys lle mae dau neu dri wedi ymgynnull yn fy enw i, yno yr ydwyf yn eu canol hwynt (Mathew 18:20 WM).

Testun ein sylw yn 'Tiberias' (7/3) fydd Proffwydi Baal a Phroffwyd yr Arglwydd yn gweddïo (1 Brenhinoedd 18:21-40).