Cymerodd hwy gydag ef ac encilio o'r neilltu i dref a elwir Bethsaida (Luc 9:10b).
Palet L.S.Lowry (1887-23/2/1976)
'I use simple materials: Ivory Black, Vermilion, Prussian Blue, Yellow Ochre, Flake White ...'
Y mae i’n berthynas â Duw ei wedd gyhoeddus a’i wedd bersonol; dibynna’r naill ar y llall. Mae ‘Bethsaida’ yn gyfle ac yn gyfrwng i ddyfnhau ein bywyd defosiynol.
Wedi cyd-ddarllen Salm 46, aethom i’r afael â’r cwestiwn mawr: A yw Duw bob amser yn ateb ein gweddïau? Aeth llawer gweddïwr i anobaith am iddo gredu nad oedd Duw yn gwrando. Awgrymodd ein Gweinidog mai un o anhepgorion y ffydd yw bod Duw yn ymwybodol ohonom. O gredu hynny, ni ellid awgrymu fod Duw yn ein hanwybyddu! Mae Duw yn clywed a gwrando pob gweddi, ac yn ateb pob gweddi yn ôl ei ewyllys, ac yn ei amser ei hun.
Mae gennym enghreifftiau lawer o weddïau cywir a gonest, a’r rheini’n weddïau ar un olwg heb eu hateb. Ystyriwyd gennym heno'r ddwy enghraifft yma o’r Hen Destament: Cais Moses gerbron Duw am gael arwain ei bobl i Ganaan. Cais dyn da, a chais teg a rhesymol: Gad i mi fyned drosodd, atolwg, a gweled y wlad dda sydd dros yr Iorddonen (Deuteronomium 3:25). Ni chafodd mo’i ddymuniad. Nid croesi'r Iorddonen i Ganaan fu ei ran, ond esgyn i ben mynydd Pisga a marw yng ngolwg y wlad yr hiraethodd gymaint amdani.
Cais gwahanol a gawn gan Elias (1 Brenhinoedd 19:4 WM). Nid dymuno cael byw fel Moses, mae Elias, ond deisyfu cael marw: Eisteddodd dan y ferywen ac a ddeisyfiodd iddo gael marw. Ni chafodd yntau'r ateb a geisiodd. ‘Roedd gan Dduw ddarpariaeth well ar gyfer y ddau fel ei gilydd; darpariaeth a bendith nad oedd y naill neu’r llall yn gweld ar y pryd.
Aethom ymlaen i drafod yr enghraifft fwyaf adnabyddus o weddi nas atebwyd mohoni, eto ar yr olwg gyntaf: gweddi Iesu yng ngardd Gethsemane. Croesodd Iesu afon Cedron gyda’i ddisgyblion. ‘Roedd ei enaid yn athrist hyd angau (Mathew 26:38 WM) a gweddïodd boed i’r cwpan hwn fynd heibio i mi ... (Mathew 26:39 BCN). Dyma ddod at galon ac enaid gweddi: Ni roed i Iesu ei ddymuniad ond cafodd ei ateb - ateb Tad yn caru’r byd. Plygodd Iesu mewn gweddi, a phlygodd i ewyllys ei dad, ac felly cafodd nerth i wynebu’r Groes. Cafodd afael newydd ar ei Dduw, ac ystyr dyfnaf gweddi yw sicrhau hynny: dyfnder newydd i’n perthynas â Duw. Nid mynd â’n deisyfiadau at Dduw, a cheisio pethau penodol oddi wrtho yw gweddi yn ei hanfod, ond ceisio Duw ei hun. Os ydyw, ar adegau, yn ymatal rhag rhoi i ni’r pethau a geisiwn, nid yw byth yn ymatal rhag rhoi ei hun i ni.
Yn ei gyfrol Dyrchafwn Gri (Gwasg Pantycelyn; 1994) mae Lewis Valentine (1893-1986) yn awgrymu fel hyn:
A weddïaist ti erioed, ddarllenydd, heb dderbyn ateb i dy weddi? Afraid ydyw gofyn y cwestiwn; bu i bawb eu gweddïau nas atebwyd. Beth oedd dy brofiad yn wyneb y gweddïau hyn? A siglodd dy ffydd? Dylem ein hatgoffa’n hunain yn fynych nad erfyniad a deisyfiad a gofyn ydyw gweddi: o leiaf, nid hyn ydyw’r gweddïo mwyaf. Y mae hyd yn oed paganiaid wedi gweld hyn, canys dywed un ohonynt, ‘Nid ceisio cymell y duwiau i newid cwrs pethau ydyw gweddi, ond y rhodd a roir ganddynt o gymuno â hwynt’. Dyma fynd yn agos iawn at ystyr gweddi Gristnogol. Diflannai llawer o’n hanawsterau pe cofiem mai moddion i gymuno â’r Anfeidrol ydyw gweddi o flaen popeth arall.
Buddiol a brwd fu’r drafodaeth, a thrueni oedd ffrwyno ychydig arni er mwyn symud ymlaen i destun trafod arall: L. S. Lowry. Y dydd heddiw, yn 1976 bu farw Laurence Stephen Lowry (gan. 1887). Try ei waith o gwmpas trefi diwydiannol Manceinion a Salford. ‘Roedd gan y Gweinidog enghraifft o’i waith i ddangos i ni heno.
Dyma Snow in Manchester (1946). Mae’n debyg, mae palet o bum lliw fu gan Lowry o ddechrau ei yrfa hyd ei farw. Pum lliw, dim ond pump: ‘I am a simple man’ meddai, ‘I use simple materials: Ivory Black, Vermilion, Prussian Blue, Yellow Ochre, Flake White ...’ Y Flake White oedd o ddiddordeb i ni heno. Mae’n grefft defnyddio'r lliw gwyn wrth arlunio, ac ‘roedd Lowry yn feistr ar y grefft honno. Ers 1924 bu’n arbrofi gyda Flake White. ‘Roedd am weld sut oedd y lliw yn newid a datblygu gyda threigl y blynyddoedd: ‘From 1924 I conducted an experiment - to find the qualities of Flake White over long periods of time. I stood several boards painted with a number o coats of Flake White and kept them for many years. And I found what I was looking for - a perfectly beautiful tone of chalky grey white. So you see, the pictures I have painted today well not be seen at their best until I'm dead.’
Buddsoddiad mentrus yw gweddïo, addoli - hawlio yfory er gwaethaf holl ansicrwydd heddiw - buddsoddwn ein ffydd gan gredu y bydd y ‘lluniau’ a beintiwyd gennym yn edrych ar eu gorau, ymhell wedi’n hamser ni.
Wedi cyfnod o weddi, daeth y 'Bethsaida' braf a buddiol hwn i ben.