2013 ...
Yn 2013, am y 9fed flwyddyn o’r bron aeth PIMS i Goleg Iwerydd, San Dunwyd am benwythnos o hwyl a myfyrdod.
9 ymweliad ...
9 penwythnos yn drwm o antur a menter.
9 penwythnos yn drwch o hwyl a chwerthin.
Onid oes yn rhywbeth yn lletchwith am y rhif 9?
Onid gwell yw 10?
Mae 10 yn gyflawn; twt ydyw.
Bu cryn bwysau ar ein Gweinidog i drefnu ymweliad arall â’r Coleg. Wedi 3 mlynedd o gyson bwyso, cafodd PIMS ei dymuniad! Eleni, 2016, am y 10fed tro, aeth PIMS i Goleg Iwerydd, San Dunwyd am benwythnos o hwyl a myfyrdod.
PIMS Coleg Iwerydd 2016 - diolch enfawr i Geraint am bob cymorth a chefnogaeth
Coleg chweched dosbarth i fyfyrwyr ar draws y byd i gyd yw Coleg yr Iwerydd. Saif ar lan y môr yn San Dunwyd a lle hudol Hogwartaidd ydyw! Mae’r adran efrydiau allanol yn cynnig lle i oddeutu 20 aros yno am benwythnos, a chymryd rhan mewn amrywiol weithgareddau.
Codi tŵr!
Braf oedd cael cwmni 15 o bobl ifanc yn y Coleg eleni, yn amrywio mewn oed o flwyddyn 7 i flwyddyn 12 (wnawn ni ddim crybwyll oed Owain, Lona, Geraint a Dyfrig!). Cawsom hwyl i’w rhyfeddu, yn canŵio, nofio, dringo’r wal ddringo, ac eto fyth dringo'r cwrs rhaffau uchel. ‘Roedd yr Initiative Exercises yn dreth ar feddwl a chorff. Dysgwyd sut i saethu bwa saeth hefyd! Enillydd y gêm Pringle eleni oedd Tomos, ond ... ‘roedd Elin o fewn trwch blewyn brithyll o ennill, a hithau heb gystadlu o’r blaen.
Initiative Exercises a Chanŵio
Saethyddiaeth ... Ar y chwith bullseye mab y Gweinidog! Ar y dde bullseye y Gweinidog!
Yn ogystal cafwyd amser i sgwrsio dros baned a phryd o fwyd, wrth olchi llestri a cherdded gerddi’r Coleg. Ni ddylid anghofio’r Epilog nos Wener a nos Sadwrn. Y bobl ifanc sydd yn trefnu’r addoliad hwn ymhlith ei gilydd: darlleniadau, gweddïau a chanu.
‘Rydym, fel eglwys yn falch iawn o’n pobl ifanc. Mae hwyl eu cwmni, ac asbri eu ffydd yn donic enaid!
2017?
Onid oes yn rhywbeth yn lletchwith am y rhif 10?
Onid gwell yw 11?
Cyn ymadael, ffurfiwyd pwyllgor brys bore Sul, a phenodi Shani’n lladmerydd: un neges oedd ganddi i’w thad: 'Rhaid dod eto! Rhaid i PIMS gael dychwelyd i Goleg Iwerydd yn 2017'.
Cawn weld ...