Treasure Island, Kidnapped, The Strange Case of Dr Jekyll and Mr Hyde
Heddiw, yng Nghaeredin 1850 ganed Robert Louis Stevenson (m. 1894). Dyma rydd gyfieithiad o'i Pattern for Living.
- Penderfynwch fod yn ddedwydd, gan ddysgu ymlawenhau ym mhethau syml bywyd.
- Gwnewch y gorau o’ch amgylchiadau. Nid yw bywyd yn fêl i gyd i neb. Ymhlyg yn llawenydd pawb mae rhywfaint o dristwch. Y gamp yw sicrhau fod y chwerthin yn amlycach na’r dagrau.
- Peidiwch â’ch cyfrifir eich hunain yn bwysicach nag ydych. Peidiwch â meddwl y dylid eich cadw rhag y trafferthion sydd yn dod i eraill.
- Amhosibl yw bodloni pawb. Na phoener yn ormodol am feirniadaeth.
- Peidiwch â cheisio bod yr hyn y tybiwch y mai arall/eraill yn dymuno i chi fod. Byddwch yr hyn ydych.
- Gwnewch yr hyn yr ydych yn mwynhau, ond gochelwch rhag dyled.
- Peidiwch â benthyg trafferth. Mae trafferthion dychmygol yn anoddach i’w goddef na thrafferthion go iawn.
- Gan fod casineb yn wenwyn i’r enaid, peidiwch â choleddu cynnen. Osgowch bobl sydd yn gwneud chi’n anhapus.
- Mynnwch ddiddordebau amrywiol. Os na fedrwch deithio, darllenwch am eraill yn teithio.
- Ataliwch rhag y post-mortem! Peidiwch â phendroni dros ofidiau a chamgymeriadau.
- Gwnewch yr hyn a fedrwch dros eraill.
- Byddwch brysur. Gall cadw’n brysur eich cadw rhag diflastod.