Philipiaid 2:12-30
Wrth ddarllen y darn hwn o’r ail bennod o lythyr Paul at ei annwyl Philipiaid fe ddaw un tŷ ar Manor Way Caerdydd i’m meddwl. Pob Rhagfyr mae goleuadau Nadolig yn frech dros y tŷ hwnnw. Na, nid gweithred grefyddol yw taenu golau dros eich tŷ, ond dw i’n weddol sicr mae dyma’r fath o beth y buasai Iesu’n pwytho i frethyn ei ddamhegion pe bai’n byw yng Nghymru'r unfed ganrif ar hugain. Mae Teyrnas Dduw yn debyg i ddyn a orchuddiodd ei dŷ a golau ...
Pobl y goleuni ydym ni - goleuni Duw. Crefydd pobl yn dilyn y goleuni yw ein crefydd ni, a dyna ardderchog, meddai Paul wrth y Philipiaid - a thrwyddynt wrthym ninnau - byddai inni benderfynu gosod ein hunain yn llwyrach nag erioed dan lywodraeth y goleuni hwn ... byddwch yn ddi-fai a diddrwg, yn blant di-nam i Dduw yng nghanol cenhedlaeth wyrgam a gwrthnysig, yn disgleirio yn eu plith fel goleuadau yn y byd (2:15).
Adnodau i'ch sylw:
Eseia 60: 1-3; 19-20
Salm 84:11
Salm 90:17
Mathew 5: 13-16
Ioan 8:12
I ysgogi myfyrdod pellach:
A yw gwir Gristion, bob amser, yn goleuo rhywfaint ar gymdeithas?
Wedi darllen Philipiaid 2:12-30, ystyriwch eiriau J. Cynddylan Jones (1841-1930): Y mae'r saint i fod yn dryloyw fel gwydr i adael i oleuni'r nefoedd ddylifo i’r ddaear. Gellir edrych ar y mur, ond nid trwy'r mur. Eithr gellir edrych ar y ffenestr, a thrwy'r ffenestr, a gweld yr hyn sydd yr ochr draw iddi. Felly dylai cymeriadau'r saint fod - yn gymeriadau y gall y byd nid yn unig edrych arnynt, ond hefyd edrych drwyddynt a gweld Duw y tu cefn iddynt.