Dymunai Mair ein helpu gyda’r Grawys.
Y rhai hyn oll oedd yn parhau yn gytûn mewn gweddi ac ymbil, gyda’r gwragedd, a Mair mam yr Iesu, a chyda’i frodyr ef. (Actau 1:14)
Pe bawn yn dychmygu’r Efengyl yn ddrama ag iddi bedair act, yr act agoriadol yw’r geni ym Methlehem. Mae Mair yn gymeriad allweddol yn yr act honno. Ceir ambell gyfeiriad ati, hwnt ac acw yn yr ail act: gweinidogaeth fawr ei mab. Mae hi eto ymhlith y prif gymeriadau i’r drydedd act, cawn sôn amdani wrth droed y groes, ond wedi hynny... daw’r act olaf, sef hanes yr eglwys yn tyfu a datblygu. Dyma act yr Actau. Ar ddechrau’r act olaf, cawn dim ond y cip olwg lleiaf ar Mair. Mae Mair yn croesi’r llwyfan yn dawel, ac yn diflannu. Yr oedd y rhain oll - y disgyblion - yn dyfalbarhau yn unfryd mewn gweddi, ynghyd â rhai gwragedd a Mair, mam Iesu, a chyda’i frodyr (1:14). Wedi hyn, ni chawn weld ragor o Mair. Ar ôl tor calon Calfaria a rhyfeddod y bedd gwag, fel meddai Hamlet, The rest is silence i’r Fendigaid Fam.
Er i’r Eglwys ei hanrhydeddu â pharch ac urddas fel Mam ein Gwaredwr, mae’n amlwg ddigon nad oedd hon wedi chwennych y fath barch, urddas na safle ymhlith y gymdeithas Gristnogol gynnar, er mai hi, yn naturiol ddigon, oedd yn adnabod Iesu orau o bawb ohonynt.
Gallasai Mair, yn hawdd ddigon, fod wedi hawlio’r llwyfan, wedi mynnu cael sôn o hyd fyth am Iesu. Hon oedd ei fam wedi’r cyfan, ganddi hi oedd yr hawl naturiol i sôn am Iesu.
Gallasai Mair, yn hawdd ddigon, fod wedi byw yng ngwawl buddugoliaeth ei mab dros angau a’r bedd. Fel ei fam, gallasai Mair fod wedi esgyn i safle o awdurdod tawel dros y gweddill, yn syml oherwydd natur amlwg ei pherthynas â’r Crist atgyfodedig. Prin y buasai neb o’r disgyblion wedi ceisio ei hatal. Ond yr argraff a gawn o adnod ein testun, yw bod Mair wedi ffrwyno grym ei hemosiwn a’i droi’n egni parod, cyson i dawel gynnal y gymdeithas fechan hon o bobl Crist Iesu. Trodd llif ei hatgofion yn ffrwd o weddi. Rhannodd ei phrofiad heb ymelwa dim arno.
Yn ei gartref ar Great Russell Street, Birmingham gellid gweld sawl enghraifft o gelfyddyd Edward Burne-Jones. Mae un darn o’i waith yn sefyll allan i mi, sef ffenestr lliw ysblennydd. Mae’r ffenest yn nodedig nid yn unig oherwydd ei phrydferthwch, ond hefyd oherwydd i’r arlunydd ddewis gosod y ffenest uwchben y sinc yn y gegin fach lle ‘roedd morwyn fwyaf distadl y tŷ yn golchi pentwr o lestri drwy’r dydd, bob dydd. Gosododd Mair ei phrofiad fel mam y Gair a wnaethpwyd yn gnawd; gosododd Mair ei hadnabyddiaeth ddofn o Iesu, mab y Saer fel ffenest lliw uwchben y sinc yng nghegin fach yr eglwys gynnar.
Mi hoffwn awgrymu bod y parodrwydd hwn i gamu draw i’r ymylon yn fynegiant o ffydd Mair. ‘Roedd hon, mi gredaf, yn ac o herwydd ei ffydd wedi deall bod ei pherthynas ag Iesu wedi newid - ie, hyd yn oed ei pherthynas hi ag Iesu. Er mae ei fam ydoedd, ‘roedd y ffrwydrad hwnnw o fywyd ar fore Sul y Pasg wedi newid natur perthynas pawb ag ef. Newid y soniodd Iesu amdano wrth ddweud y geiriau a fu - mae’n siŵr gen i - yn loes calon i Mair o’u clywed y tro cyntaf. Dyma fel mae Marc yn cofnodi’r hanes: A daeth ei fam a’i frodyr, a chan sefyll tu allan anfonasant ato i’w alw. Yr oedd tyrfa’n eistedd o’i amgylch, ac meddent wrtho, “Dacw dy fam a’th frodyr a’th chwiorydd y tu allan yn dy geisio.” Atebodd hwy, “Pwy yw fy mam i a’m brodyr?” A chan edrych ar y rhai oedd yn eistedd yn gylch o’i gwmpas, dywedodd, “Dyma fy mam a’m brodyr i. Pwy bynnag sy’n gwneud ewyllys Duw, y mae hwnnw’n frawd i mi, ac yn chwaer, ac yn fam.” (3: 31-35). Dwi ddim yn meddwl bod neb wedi deall y geiriau hyn o’u clywed y diwrnod hwnnw - ond wedi’r Pasg ac o’i herwydd, roedd Mair mam Iesu, ac Iago, brawd Iesu, a gweddill y brodyr a chwiorydd, a phob un o’r disgyblion bellach yn deall arwyddocâd y geiriau miniog rheini. Yn ddigwyn, derbyniodd Mair ei lle gyda phawb arall, heb fod yna wahaniaeth rhyngddi ragor a neb arall; a hynny efallai yn anad dim byd arall a’i gwna yn wir yn Fendigaid Fam.
Cymerodd Mair ei lle ar yr ymylon, buasai’r fam ryfeddol hon wedi benthyg yn hapus ddigon geiriau proffwydol Ioan Fedyddiwr ar ddechrau Efengyl Ioan: Y mae’n rhaid iddo ef gynyddu ac i minnau leihau (Ioan 3:30).
Dymunai Mair ein helpu gyda’r Grawys ...
Dymunai Mair ein hatgoffa nad da yw’r arfer sydd gennym o sôn am Gristnogaeth! Dymunai Mair i ni hepgor yr abstract noun hwnnw! Pobl Crist ydym, meddai hon wrthym. Pobl Crist ydym bob un, a rhaid i ninnau ddilyn ei esiampl, a does dim yn abstract am hynny!
Dymunai Mair ein helpu gyda’r Grawys ...
Dymunai Mair ein hatgoffa nad athrawiaeth uniongred na chyfundrefn eglwysig ddelfrydol yw cynnyrch Efengyl ei mab Iesu Grist, ond pobl fel ti a minnau, a phobl Crist sy’n dylanwadu ar gymdeithas ac ar y byd, nawr fel erioed. Mae Cristnogaeth werth dim i Iesu, ond mae ei bobl werth y byd iddo. Mae ei bobl werth aberth y crud a’r groes ganwaith trosodd!
Dymunai Mair ein helpu gyda’r Grawys ...
Dymunai Mair ein hatgoffa mae’r unig fyw a ddymuna Iesu yw cael byw ynom ni, ac amod hynny yw ildio iddo. Y mae’n rhaid iddo ef gynyddu ac i ninnau leihau.
Edward Burne-Jones (1833-1898)