Yn yr ardal yr oedd bugeiliaid allan yn y wlad yn gwarchod eu praidd liw nos (Luc 2:8 BCN)
‘Roedd cwmni ohonom wrth y tân - tân heb wres iddo - a phawb wedi glân flino.
‘Roedd fy llygaid ar agor - yn gweld dim - edrych trwy bopeth at ddim byd. Dim byd o gwbl, dim byd ond ... golau swnllyd, sŵn olau. ‘Roedd nos yn fyw! Bwrlwm gwyllt o’r creaduriaid rhyfeddaf a welais erioed. Angylion y’i gelwir: llachar, hudolus, tywyll, brawychus. Eu cân yn treiddio a thrydanu, yn suo ac atseinio: cysur a braw.
Dywedwyd rhywbeth wrthym. Do. Er na wyddom - wrth geisio cofio - beth yn union. Yn sgil y neges aethom ar garlam i stabl ym Methlehem.
Yn llygad y storm, mae yna dawelwch. ‘Does dim byd yn symud; mae’r tawelwch, hyd yn oed, yn ymdawelu. ‘Drychwch, dyma’r un bach: llygad y storm ydyw.
Agorwch eich llygaid, gwrandewch.
(OLlE)