Mokita
Perthyn i bob iaith geiriau na ellid yn llawn a llwyr eu cyfieithu i iaith arall. Mae’r gyfres hon o fyfyrdodau yn ymdrin ag ambell un o’r geiriau diddorol rheini. Daw testun ein sylw heddiw o iaith a siaredir ym Mhapua Gini Newydd, Kivila: Mokita. Yn fras, Mokita yw’r gwirionedd hwnnw nad yw neb yn sôn amdano er bod pawb yn llwyr ymwybodol ohono. Daw’r ymadrodd Saesneg The elephant in the room â ni’n agos at ystyr Mokita.
Gan gydnabod fod sawl enghraifft o Mokita crefyddol, hoffem fynd i’r afael ag un yn fras heddiw: y darnau dicllon, cas rheini o’r Beibl. Gwyddom amdanynt; gwyddom fod y rhain ynghudd ym mhlygion Air disglair Duw, ond prin, os o gwbl y cyfaddefwn hynny: Mokita.
Ystyriwn, er enghraifft y Salmau Dial: Salmau 35, 58, 59, 69, 83, 109 a 137. Geilw rhai o’r Salmau hyn am y driniaeth fwyaf annynol posibl i’r gelyn, ac ni ddichon unrhyw glyfrwch esboniadol eu cyfiawnhau: Gwyn ei fyd y sawl sy’n cipio dy blant ac yn eu dryllio yn erbyn y graig (137:9 BCN). Rhaid cydnabod eu bod yn gyfan gwbl gwbl gyfan erchyll. Profiad annymunol yw darllen ac ystyried y Salmau Dial. Sut all Duw siarad â ni, drwy’r fath Salmau cas, gwenwynig a dialgar? Sut mae myfyrio uwchben y fath syniadaeth? Gellid ei hanwybyddu felly! Dim o gwbl. Maent yn y Beibl; perthynant i’r datguddiad o Dduw a gawn yno. Gwna Mokita ddim mo’r tro.
Wrth ystyried y Salmau Dial, dylid ceisio cofio fod rhai ohonynt i’w priodoli i’r genedl ac nid i unigolyn - y genedl a ddioddefodd gymaint dan law ei gorthrymwyr. Oes llygad am lygad, dant am ddant (Exodus 21:24 a Mathew 5:38) oedd hi. Ni ddysgwyd hyd eto i geisio gwahaniaethu rhwng y pechadur a’r pechod. Ffrwyth chwerw - gonest - yr hinsawdd ddiwinyddol ar y pryd yw’r Salmau hyn. Ymhellach ystyriwyd y gelyn yn elyn i Dduw yn ogystal ag i’r Salmydd. Credwyd fod enw a gogoniant Duw yn y fantol. Yn bennaf, dylid cofio fod y Salmydd yn ymddiried y dial i Dduw, ac ni chais weithredu dial drosto’i hun. Gallwn yn hyn ddysgu gwers oddi wrtho. Mor fynych y mynnwn ddial drosom ein hunain!
Glanha ein calonnau o bob chwerwedd pan fo pobl yn gwneuthur cam â ni. Amen.
(OLlE)