Yn y lle cyntaf, felly, yr wyf yn annog bod ymbiliau, gweddïau, deisyfiadau a diolchiadau yn cael eu hoffrymu dros bob dyn, dros frenhinoedd a phawb sydd mewn awdurdod, inni gael byw ein bywyd yn dawel a heddychlon, yn llawn duwioldeb a gwedduster.
(1 Timotheus 2:1,2)
Wedi baglu dros yr adnodau hyn dechrau’r wythnos, bues yn hel meddyliau am oblygiadau gweddïo dros frenhinoedd a phawb sydd mewn awdurdod.
Ar ddechrau’r bennod hon (1 Timotheus 2) mae Paul yn cynnig cyfarwyddid ynglŷn â threfn eglwysig, a rhoddir y sylw cyntaf i addoliad cyhoeddus. Fe ddechreuir gyda gweddi. Nodir dau beth. Yn gyntaf, sut mae gweddïo: ... yr wyf yn annog bod ymbiliau, gweddïau, deisyfiadau a diolchiadau ...; ac yn ail, tros bwy y mae gweddïo: ... yn cael eu hoffrymu dros bob dyn, dros frenhinoedd a phawb sydd mewn awdurdod. Anogir yr eglwys i weddïo dros y rheini sydd mewn awdurdod. Nid oedd y brenhinoedd a phawb sydd mewn awdurdod y mae Paul yn cyfeirio atynt yn Gristnogion; ac eto cymhellir yr eglwys i weddïo trostynt, y da a’r drwg, y bach a’r mawr, y cyfeillgar a’r gelyniaethus. Dyma felly anogaeth Paul: mewn gweddi, rhaid cyflwyno i’r Crëwr Mawr bawb a grëwyd ganddo.
A ellid dadlau fod anogaeth Paul i weddïo dros frenhinoedd a phawb sydd mewn awdurdod yn awgrymu ei fod yn gefnogol o’r brenhinoedd ac awdurdodau rheini? Dim o gwbl!
Tybir mai’r Cesar mewn grym pan fu Paul yn llunio’r llythyr hwn oedd Nero. Ie! Hwnnw!! Meddai Tacitus am Rufain Nero: All things atrocious and shameless flock from all parts to Rome. Nid yw gweddïo dros frenhinoedd a phawb sydd mewn awdurdod yn gyfystyr â bod yn gefnogol ohonynt, ac o’u polisïau. Gweddïwn drostynt gan mae pennaf arf y Cristion i newid pobl, cymuned, gwlad a byd yw ein gweddïau a gweddi. (Pam sôn am ‘Gweddïau’ a ‘Gweddi’? Gweddïau yw’r hyn a gynigwn i Dduw yn oedfaon y Sul. Gweddi yw ein ffordd o fyw gweddill yr wythnos.) Mae anogaeth Paul i weddïo dros frenhinoedd a phawb sydd mewn awdurdod yn rhoi’r pwyslais ar fendith a deall, goleuni a doethineb ... a chymod.
Felly ... y darpar Arlywydd Donald Trump. Bu hwn ers wythnosau lawer yn destun tuchan a dychan. Do, ond a fu’n destun gweddi? A fuom yn gweddïo dros ddarpar Arlywydd yr Unol Daleithiau? Pro Europa neu Brexit, a fuom yn gweddïo dros y Prif Weinidog Theresa May a llywodraeth gyfredol San Steffan? A fuom yn gweddïo dros Brif Weinidog Cymru a Chynulliad Cenedlaethol Cymru - dros y corff sy’n cynrychioli buddiannau Cymru a’i phobl, yn deddfu ar gyfer Cymru, yn cytuno ar drethi yng Nghymru, ac yn dwyn Llywodraeth Cymru i gyfrif? Os ydym o ddifri yn credu na fetha gweddi daer â chyrraedd hyd y nef dylai pobl Dduw fod yn gweddïo’n ddyfal ddygn dros ‘frenhinoedd’ heddiw, a phawb sydd mewn awdurdod nawr.
Wrth baratoi’r ychydig sylwadau hyn bues yn pori mewn hen esboniad a’r 1 Timotheus. Ysgrifennwyd yr Esboniad da hwn mewn oes wahanol, lai sinigaidd. Mae’r esboniwr yn gofyn y cwestiwn: Tybed beth fyddai cyflwr y byd ar wahân i weddi ddirprwyol yr Eglwys, a sut gyflwr a fyddai ar yr Eglwys pe gwnâi ‘anghofio’r byd a’i loes’? Mae gogwydd cadarnhaol y cwestiwn yn drawiadol. Mae’r esboniwr yn cymryd yn ganiataol y buasai cyflwr y byd yn waeth o dipyn heb weddi ddirprwyol yr Eglwys! Credaf bellach fod y cyfan a’i ben i waered; gellid gofyn heddiw: Tybed a yw cyflwr cyfredol ein byd yn ganlyniad diffyg gweddi ddirprwyol yr Eglwys, ac ydi’r eglwys honno’n cloffi yng Nghymru gan iddi ‘anghofio’r byd a’i loes’?
Felly, ystyriwn Donald, Theresa, Carwyn a phawb arall a ddylai fod yn destun gweddi gennyf, gennyt a gennym. Digon o ddychan a thuchan: gweddïwn. At bob gwaith a gweithio, ychwanegwn holl rym ein gweddi a gweddïau. Boed i’r Cristion o Gymro - o ba gredo bynnag - ddefnyddio'r cryfaf o arfau’i ffydd: gweddïed. Gweddïed dros Wledydd Prydain. Gwelsom ymrannu ac ymrafael. Daeth cyfnod anodd, ansicr. Gweddïwn am arweiniad wrth geisio ailddiffinio ein perthynas â gweddill Ewrop. Gweddïwn am nerth a dyfeisgarwch i ddarganfod gwrthgyffur i’r gwenwyn a ddaeth gymaint rhan o’n gwleidydda’n ddiweddar. Gweddïwn am barch a derbyniad i’r rheini, yma o ledled byd, sydd yn cyfrannu gyda ni at amlochredd cyfoethog ein cymunedau. Gweddïwn, gan fod gweddi yn ein hatal rhag ymynysu; rhag ymbleidio, rhag anobeithio.
Gweddïwn dros Donald Trump. Os credwn mai gwyllt a pheryglus ydyw, gweddïwn ar iddo gael ei amgylchynu gan gynghorwyr doeth a staff deallus a chall. Gweddïwn ar i ysbryd cymod a chariad gydio ynddo gerfydd ei glust! Gweddïwn ar iddo ymdeimlo nid dim ond â grym a chyfle'r Arlywyddiaeth, ond hefyd â’i gyfrifoldeb i wasanaethu cenedl, cyd-ddyn a Duw yn ffyddlon.
Ni feddyliais erioed y buaswn yn dyfynnu Ronald Reagan! Ond, meddai hwnnw mewn brecwast gweddi: America needs God more than God needs America. If we ever forget that we are One Nation Under God, then we will be a Nation gone under.
Gweddïwn; gweddïed y Cristion gan gofio fod Duw gyda ni yn Dduw trosom ni, ac yn Dduw erom ni yn Iesu Grist.
(OLlE)