MIRIAM (1) Exodus 2:4-8 a 15:20-21
Cawn gwrdd â Miriam am y tro cyntaf, yn ferch tua saith mlwydd oed, yn cuddio yng nghanol yr hesg tal wrth ymyl Afon Nil. Mae ei brawd bychan newydd-anedig yn sgrechian a strancio ym mreichiau anghyfarwydd un o ferched Pharo. Camodd Miriam allan o’i chuddfan. Yn hyf, meddai wrth y dywysoges, "Bydd angen nyrs i’r baban, ‘rwy’n adnabod yr union berson i chi." Rhuthrodd Miriam adref i nôl ei mam. Byddai Moses, heb yn wybod iddo, yn ddiogel yng ngofal ei fam iawn; hynny, oherwydd hyfdra merch fach.
Mae’r bobl wedi croesi’r Môr Coch, wedi dianc o’r Aifft a’i boen. Ni allai Miriam lai na chanu. Cydiodd mewn tympan ac arwain y ddawns a’r mawl i Dduw - dyma awr fawr Miriam.
- Trafodwch eiriau Evelyn Underhill: Y mae addoli yn puro, yn goleuo, ac yn y diwedd yn trawsffurfio pob bwyd a ddaw o dan ei ddylanwad.
MIRIAM (2) Numeri 12:1-2 a 9-10; a 20:1
Ychydig yn ddiweddarach, fe ddaw tro ar fyd. Mae Miriam yn siarad allan yn erbyn Moses. Cawn weld ochr arall iddi nawr: chwerwder a chenfigen. ‘Roedd Miriam yn anhapus oherwydd ar ôl i Seffora farw, priododd Moses â gwraig o Ethiopia. Ymuna Aaron gyda Miriam mewn cytgan o rwgnach. Maent yn prysur danseilio awdurdod Moses. Mae Miriam yn cael ei chosbi: y gwahanglwyf yn troi ei chroen yn wyn. Moses sydd yn erfyn ar Dduw i’w hiachau. Wedi gwella, mae Miriam yn cael ei chau allan o’r gwersyll am wythnos. Mae’r bobl yn methu teithio nes iddi ddychwelyd i’w plith. Mae cosb Miriam, felly, i raddau, yn gosb ar yr holl bobl. Bu farw Miriam yn Cades. Fel ei brodyr, Aaron a Moses, ni welodd Wlad yr Addewid. Er gwaethaf ei gwendidau, mae ei chân o lawenydd, ei dathliad o ryddid yn atseinio hyd heddiw ym mhrofiad ei phobl.
- Yng ngoleuni profiad Miriam, trafodwch oblygiadau geiriau Paul: Gwyddom fod Duw, ym mhob peth, yn gweithio er daioni gyda’r rhai sy’n ei garu…(Rhufeiniaid 8:28)