- Gwyn eu byd y tlodion yn yr ysbryd: canys eiddynt yw teyrnas nefoedd.
- Gwyn eu byd y rhai sydd yn galaru: canys hwy a ddiddenir.
- Gwyn eu byd y rhai addfwyn: canys hwy a etifeddant y ddaear.
Bydd Oedfaon y Sul dan arweiniad ein Gweinidog. Bore Sul (10:30) testun gwers yr Ysgol Sul fydd ‘Mair yn eneinio traed Iesu!’ (Ioan 12:1-8). Yn homili’r bore (Y Gwynfydau (2) Mathew 5:3-5 bydd ein Gweinidog yn trafod tlodi ysbrydol, galar ac addfwynder, gan awgrymu fod y tri gwynfyd cyntaf yn perthyn i’w gilydd. Dylid eu darllen a’u hystyried felly gyda’i gilydd. Er cystal bod yn dlawd yn yr ysbryd, nid yw’n ddigon. Er cystal galaru am gyflwr byd a phob ymdrech i’w achub, nid digon hynny. Rhaid plethu’r tlodi ysbrydol a’r galaru ynghyd. Gyda’r naill a’r llall ymhleth yn ei gilydd, ceir addfwynder.
- Gwyn eu byd y rhai sydd arnynt newyn a syched am gyfiawnder: canys hwy a ddiwellir.
- Gwyn eu byd y rhai trugarogion: canys hwy a gânt drugaredd.
Liw nos (18:00) bydd Owain yn parhau â’r gyfres o bregethau yn seiliedig ar Wynfydau Efengyl Mathew. Gan aros gyda’r pwyslais fod trefn y Gwynfydau yn ogystal â’u cynnwys yn bwysig bydd y bregeth hon yn echelu ar y syniad mai cwpled ysbrydol yw gwynfydau 4 a 5. Mae’n rhaid ystyried y ddau gyda’i gilydd neu mae perygl i ni fynd ar goll. Mae cyfiawnder yn allweddol bwysig, ond pobl galed yw’r rheini nad sy’n hidio am ddim byd ond cyfiawnder! Gofala Iesu felly fod rhinwedd arall i wrthbwyso cyfiawnder. Ydi, mae cyfiawnder yn beth da, ardderchog yn wir, ond rhaid wrth drugaredd i dymheru ein cyfiawnder.
Bydd y gymdeithas yn parhau yn Koinônia: swper blasus a sgwrs ddifyr mewn bwyty Eidalaidd cyfagos.
Nos Lun (22/1; 19:00-20:30) - PIMS
Nos Fawrth (23/1; 19:30-20:30): ‘Bethania’. Echel ein trafodaeth eleni yw ‘Pobl yr Hen Destament’. Parhawn gyda MIRIAM (Exodus 2:4-8, 15: 20-21; Numeri 12: 1-2 a 9-10; a 20: 1). Darperir nodiadau ‘Bethania’ rhag blaen ar y wefan hon bore dydd Llun.
Bore Gwener (26/1; 10:00): ‘Llynyddwch’. Paned wrth ymyl llyn llonydd y Rhath. Yn Terra Nova cawn gyfle i drafod, fesul pennod, llyfr Samuel Wells: How then shall we live (Canterbury, 2016). Echel ein trafodaeth fore Gwener fydd The Family (t.67-72).