Age-otori
Perthyn i bob iaith geiriau na ellid yn llawn a llwyr eu cyfieithu i iaith arall. Mae’r gyfres hon o fyfyrdodau yn ymdrin ag ambell un o’r geiriau diddorol rheini. Daw testun ein sylw heddiw o’r Siapanaeg: age-otori. Yn fras, age-otori yw’r ymwybyddiaeth ein bod yn edrych yn waeth - nid gwell - wedi cael torri neu drin ein gwallt!
Gŵr cryf gwan oedd Samson, yn simsan o gadarn, yn ddoeth o ffôl. Delila ddaeth â Samson i’w liniau. Oherwydd Delila ‘roedd Samson bellach yn garcharor dall yn Gasa. Yn malu blawd fel ceffyl gwedd bob dydd, trwy’r dydd. Testun sbort ydoedd, symbol o’r gelyn a orchfygwyd: age-otori. Heb os ac oni bai ‘roedd Samson mewn cyflwr truenus wedi i Delila drin ei wallt! Nid dyna ddiwedd y stori ... dechreuodd ei wallt dyfu eto (Barnwyr 16:22) meddai awdur Barnwyr yn ei ffordd gwta, sardonig ei hun. Rhyw ddydd daethpwyd â Samson o’r carchar ar un o wyliau crefyddol y Philistiaid, ac arweiniwyd ef yn naturiol ddigon i deml ei duw hwy - Dagon. ‘Roedd yr arth hwn o ddyn wedi ei ddofi wedi’r cyfan. Nid oedd yn fygythiad bellach. Rhoddwyd ef i sefyll rhwng prif golofnau'r deml, ac yng nghanol y miri a’r hwyl, y crechwenu a’r gwatwar, galwodd Samson ar yr ARGLWYDD, gan bwyso, ei law dde ar un golofn a’i law chwith ar y llall ac yna fe wthiodd ai holl nerth a chwympodd y deml ar yr arglwyddi a’r holl bobl oedd ynddi.
Pa rhyfedd nad yw Disney yn ystyried animeiddio’r stori hon? Tueddwn i feddwl mai stori i blant yw stori Samson, ond o ddifri calon, nid stori i blant yw hon. Stori waedlyd, farbaraidd, trafferthus ydyw, sydd hefyd yn stori arwrol ac ysblennydd.
Ffydd yw codi uwchlaw amgylchiadau anodd bywyd. Dyma Samson, yn garcharor, yn destun sbort ac atgasedd cyson - clwtyn llawr o ddyn ydoedd i’r Philistiaid, ond fe lwyddodd hwn i dynnu buddugoliaeth o grafangau methiant yn ôl ... dechreuodd ei wallt dyfu eto.
Gwyddom yn iawn am age-atori: hap a damwain bywyd, ei bwysau a’i brysurdeb, ei ofynion a’i ddisgwyliadau yn gallu eillio ein ffydd, a ninnau teimlo o’r herwydd fod bywyd, yn ei holl ramant, cyfle a chyfoeth yn ddim byd amgenach na malu blawd mewn carchardy. Ond ... dechreuodd ei wallt dyfu eto. Pechaduriaid ydym, ond nid dyma’r unig beth sydd i ddweud amdanom. Plant Duw ydym, ac ynom - ganddo - mae’r gallu i godi’n uwch na’n hamgylchiadau, i achub urddas o’r annibendod sydd gymaint rhan o’n bywyd.
Yn dy ymyl, ddwyfol Un,
‘Rwyf yn fyw na mi fy hun.
W. Evans Jones (1854-1938)
Y Caniedydd Cynulleidfaol Newydd 1921. Rhif 983.
(OLlE)