Salm 2
Salm ddramatig yw Salm 2. Mae pob brawddeg ynddi bron iawn yn tynnu darlun cyffrous ar gynfas ein dychymyg. Ysgrifennwyd hi mewn cyfnod cynhyrfus iawn, ac o’r herwydd sŵn cynnwrf a geir ynddi.
Mae’r ysgolheigion yn credu mai yn amser y brenin Dafydd, efallai, y cyfansoddwyd y Salm hon - cyfnod yn ei hanes ef a’i frenhiniaeth pan gododd yr Ammoniaid a’r Syriaid yn ei erbyn. Gorchfygwyd hwy yn hawdd ddigon (2 Samuel 10). Dyna felly gefndir y Salm. Yn bwysicach na’r cefndir, mae neges gyfredol Salm 2. Ceir ynddi bortread byw o gyflwr ein byd heddiw. Mae’r Salm yn disgrifio osgo ein cymdeithas heddiw at Dduw, sylwch: ... yn erbyn yr ARGLWYDD a’i eneiniog (Salm 2:2b BCN). Peidiwch â meddwl mai Salm leddf, lwyd yw hon. Salm hyderus yw Salm 2, cawn ein herio ganddi i fagu hyder. Mae’r Salmydd yn sôn am y frwydr oesol honno rhwng ewyllys pobl - yn unigol a chenedlaethol - ag ewyllys Duw. Er bob awgrym fod ein drygioni a gwrthryfel fel pobl yn ennill ar Dduw; Duw, meddai’r Salmydd sydd biau’r frwydr derfynol - a’r frwydr derfynol benderfyna pwy ennilla’r rhyfel.
1. Ceir yn y Salm hon ddarlun o Gyflwr y Cenhedloedd. Pam mae’r cenhedloedd yn terfysgu a’r bobl yn cynllwyn yn ofer? (Salm 2:1 BCN). Deffrowyd dinistr a difrod - mae’r ddynoliaeth yn cicio yn erbyn y tresi. Sylwch ar fwrlwm a symud disgrifiad y Salmydd: ... terfysgu ... cynllwyn ... brenhinoedd y ddaear yn barod ... llywodraethwyr yn ymgynghori â’i gilydd ... dryllio eu rhwymau, a thaflu ymaith eu rheffynnau ... a’r cyfan oll ... yn erbyn yr ARGLWYDD a’i eneiniog. Pobl yn cynllwynio â’i gilydd yn erbyn ei gilydd ac yn erbyn yr ARGLWYDD. Mae’n anodd peidio gweld ein byd heddiw yn hen hen eiriau’r Salmydd. Beth sydd gan y Salmydd i ddweud wrthym felly? Mae Duw yn ymwybodol o beth â ymlaen yn ei fyd ei hun, mae ots ganddo, ac mae ots ganddo nad oes ots gennym ni am beth â ymlaen yn ei fyd. Gadewch i ni ddryllio eu rhwymau a thaflu ymaith eu rheffynnau (Salm 2:3 BCN). Cri am ryddid oedd hi yn amser Dafydd, ond cri am benrhyddid yw hi heddiw. Y tu ôl i bob trybini sydd yn y byd y mae’r ffaith hon: gwrthryfel pobl ... yn erbyn yr ARGLWYDD a’i eneiniog.
2. Mae’r Salmydd yn symud ymlaen wedyn i sôn am Ymateb Duw i Gyflwr y Cenhedloedd. Mae ganddo ddarlun beiddgar, miniog o Dduw: Fe chwardd yr un sy’n eistedd yn y nefoedd ... (Salm 2:4 BCN). Mae Duw yn chwerthin am ein pennau, yn chwerthin ar ben ein hymdrechion ofer i fyw hebddo. Mae’r Beibl yn drwch o wahanol ddarluniau o Dduw - rhai yn annwyl iawn gennym: Duw'r tad annwyl, y bugail gofalus, y brenin mawr; ond mae ambell ddarlun arall nad sydd mor gyfarwydd, darluniau nad ydym yn hoffi efallai. ‘Rydym yn swil iawn i sôn am y delweddau hyn. Anodd iawn, gan fod yr eglwys cymaint â’i phen yn ei phlu'r dyddiau hyn, yw dweud ar goedd fod Duw yn chwerthin ar ben y bobl hynny sydd yn prysur wadu ei fodolaeth, a buasai bywyd heb Dduw, yn fywyd gwell a phopeth yn ei le yn dwt, fel Rubik’s cube wedi’i orffen. Fe chwardd yr un sy’n eistedd yn y nefoedd ... Os ydych yn anesmwyth eisoes, mae’n ddrwg gennyf, ond mae gwaeth eto i ddod: Yna fe lefara wrthynt yn ei lid a’u dychryn yn ei ddicter; fe’u drylli â gwialen haearn a’u malurio fel llestr pridd (Salm 2:5,9 BCN). Y mae pwrpas Duw yn llwyddo, ta waeth am bob gwrthwynebiad! ... fe’u drylli â gwialen haearn a’u malurio fel llestr pridd. Tueddwn i feddwl - ac arswydo braidd o’r herwydd - fod cyhoeddi nad yw Duw yn bod yn beth newydd, ond cofiwch dra bod pobl heddiw’n gwadu bodolaeth Duw trwy gyhoeddi llyfrau, yn y gorffennol codwyd cofgolofnau i’r union un diben. Codwyd cofgolofn gan yr ymerawdwr Diocletian iddo’i hun yn Sbaen, ac arni arysgrif: Er clod Diocletian ... a estynnodd derfynau Ymerodraeth Rhufain, ac a ddiffoddodd enw’r Cristnogion, ac a ddileodd ymhob man ofergoeliaeth Crist. Truan â Diocletian, taflodd Duw i ffwrdd; ond, mae gwadu bodolaeth Duw yn brofiad tebyg iawn i daflu pêl yn erbyn wal, pa mor galed bynnag i chi taflu bel i ffwrdd, yn ôl atoch daw’r bel bob tro. Fe chwardd yr un sy’n eistedd yn y nefoedd ... ... fe’u drylli â gwialen haearn a’u malurio fel llestr pridd.
Mae’r Salm yn gorffen gydag Apêl Duw i’r Cenhedloedd. Yn awr, frenhinoedd, byddwch ddoeth; farnwyr y ddaear, cymerwch gyngor (Salm 2:10 BCN). Pobl dorrodd ar yr heddwch. Duw sy’n cynnig telerau heddwch newydd. Gwna apêl am ddau beth: Eu gwrogaeth ... mewn cryndod cusanwch ei draed (Salm 2:11b BCN). Darlun sydd gan y Salmydd o frenin ar ei orsedd a mawrion y deyrnas yn dod a phlygu wrth ei draed, fel arwydd o’u hymostyngiad a’u gwrogaeth. Apelia, yn ogystal am eu gwasanaeth ... gwasanaethwch yr ARGLWYDD mewn ofn...(Salm 2:11a BCN). Gwasanaethwch Dduw â pharchedig ofn. Nid oes angen ymhelaethu wir; dim ond gofyn i chi sylwi: Gwrogaeth a gwasanaeth. Nid un heb y llall, ond y ddau gyda’i gilydd. Yr un neges yn union sydd gan Iesu: Nid pawb, meddai, sy’n dweud wrthyf ‘Arglwydd, Arglwydd, fydd yn mynd i mewn i deyrnas nefoedd, ond y sawl sy’n gwneud ewyllys fy Nhad, yr hwn sydd yn y nefoedd (Mathew 7: 21 BCN).
Mae’r Salmydd ac Iesu yn gytûn: fe ddaw teyrnas Dduw pan mae pobl Dduw yn gosod, tynnu a llusgo ein gweithredoedd, ein meddyliau, ein geiriau, ein cymhellion a’n teimladau o dan reolaeth cariad mawr ein Duw hynod fawr.
‘Bywha dy waith, O Arglwydd mawr, yn ein calonnau ninnau nawr ...’ Amen
(Minimus 1808-80; Caneuon Ffydd 243)
(OLlE)