...a rhoi iddo’r enw sydd goruwch pob enw... (Philipiaid 2: 9)
...yr enw mwyaf mawr erioed a glywyd sôn
(William Williams, 1717-91; C.Ff.: 312)
Iesu: yr enw a gafodd yn faban. Bydd (Mair) yn esgor ar fab, a gelwi ef Iesu, am mai ef a wareda ei bobl oddi wrth eu pechodau (Mathew 1: 21). Iesu - Gwaredwr. Cynigia pob enw, teitl a disgrifiad a roddir ar Iesu ffenestr ar ryw agwedd ar ei berson, cymeriad, gweinidogaeth ac arwyddocâd. ‘Roedd rhai enwau yn barod ar ei gyfer cyn ei eni: ‘Wele’r dyddiau yn dod,’ medd yr Arglwydd, ‘y cyfodaf i Dafydd Flaguryn cyfiawn, brenin a fydd yn llywodraethu’n ddoeth, yn gwneud barn a chyfiawnder yn y tir...’ (Jeremeia 23:5); Y mae’n porthi ei braidd fel bugail, ac â’i fraich yn eu casglu ynghyd (Eseia 40:11). Pan anwyd Iesu, bu iddo lanw pob patrwm a dynnwyd mewn hiraeth a gobaith, bu iddo hefyd ddileu pob patrwm; trowyd popeth a’i ben i waered! Yn ‘Iesu’ daw’r holl enwau, disgrifiadau a theitlau ynghyd: yr enw sydd goruwch pob enw. Yr enw hwn sy’n datgan mai penllanw pob dyhead a phob dyheu yw Iesu; ein Gwaredwr Frenin, ein Bugail Waredwr. Er bod ‘Iesu’ yn enw ddigon cyffredin ym myd Iddewig y cyfnod daeth yr un ‘Iesu’, ymhlith sawl ‘Iesu’ arall, i fod yr Iesu. Ef yn unig a wareda ei bobl oddi wrth eu pechodau. I werthfawrogi'r enw sydd goruwch pob enw, rhaid sylweddoli anferthedd yr hyn oll y gwareda Iesu ni rhagddynt. Nid yw’r enw ‘Iesu’ yn cyfrif ond i’r rheini sy’n sylweddoli maint y waredigaeth a ddaw trwyddo, a’r trwch o fendithion a geir ynddo a ganddo.
Iesu: yr enw a enillodd fel dyn. ...fe’i darostyngodd ei hun, gan fod yn ufudd hyd angau...ar groes (Philipiaid 2:8). Cafodd Iesu ei enw y tro cyntaf mewn addewid: ...gelwi ef Iesu, am mai ef... Un peth yw cael enw, peth llawer mwy yw ennill a haeddu’r enw hwnnw. I deilyngu’r enw sydd goruwch pob enw rhaid oedd i Iesu waredu. I achub hyd yr eithaf, rhaid oedd i Iesu fod yn ufudd hyd yr eithaf i uchel alwadau pwrpas Duw. Cystal ‘ufudd’ â’r un gair i grynhoi’r cyfan a olyga ymgnawdoliad a bywyd, gweinidogaeth a dysgeidiaeth, marw, atgyfodiad ac esgyniad Iesu. Atebodd y galwadau i gyd; cynnwys yr enw ‘Iesu’ y cyfan. Ymgais i ddisgrifio gwahanol agweddau o’i waith oedd y gwahanol deitlau, disgrifiadau ac enwau. Diystyr hefyd yw taeru fod ei farwolaeth yn bwysicach na’i ymgnawdoliad, neu ei esiampl yn bwysicach na’i ddysgeidiaeth. ‘Roedd pob agwedd o waith Iesu fel Gwaredwr yn angenrheidiol. Yn y cyfan, gwas ufudd Duw ydoedd: Er ei fod ef ar ffurf Duw, ni chyfrifodd fod cydraddoldeb â Duw yn beth i ddal gafael ynddo, ond fe’i gwacaodd ei hun, gan gymryd ffurf caethwas a dyfod ar wedd ddynol (Philipiaid 2:8). Bu’n ddigon gwrol i gyhoeddi’r egwyddor mai gogoniant bywyd yw gwasanaeth gostyngedig. Nid hawdd i Iesu oedd ufuddhau bob amser: Canys nid archoffeiriad heb allu cyd-ddioddef â’n gwendidau sydd gennym, ond un sydd wedi ei demtio ym mhob peth, yn yr un modd â ni... (Hebreaid 4:15). Cafodd Iesu ei demtio i beidio mynd yn ei flaen ar lwybr ufudd-dod, ac yntau’n gwybod fod llwybr ufudd-dod yn arwain at Galfaria. Nid arwahanrwydd Iesu a’i gwna’n Waredwr. Â chymaint yn ein tynnu a’n gwthio ar hyd ffordd y gwyddom a fydd yn loes i mi (Salmau 139:24), daw ein gallu i orchfygu gan yr hwn a orchfygodd yr hyn oll a fu yn ei dynnu a’i wthio oddi ar y ffordd ei gwaredigaeth ni.
Iesu: yr enw a geidw fel Arglwydd pawb a phopeth. ...fel wrth enw Iesu y plygai pob glin yn y nef... ac y cyffesai pob tafod fod Iesu Grist yn Arglwydd (Philipiaid 2:10-11). Am iddo roddi ufudd-dod perffaith ei hun, gall Iesu hawlio’n ufudd-dod ni. Dyna sail ei awdurdod. Ufudd-dod ewyllysgar yw hwn; nid caethiwed ond rhyddid i fod yr hyn oll y bwriadwyd i ni fod: plant Duw yng Nghrist. Nid Arglwydd y sawl sydd yn ei gydnabod yn Arglwydd yw Iesu ond Arglwydd pob peth, a phawb. Cysur, ac yn bwysicach, cymorth i fyw a mentro i’r Eglwys Fore oedd sylweddoli mai dyna oedd Iesu: Gwaredwr. Ein gobaith ninnau yw'r enw: Iesu. Iesu’r preseb ... Iesu’r groes...Iesu’r Orsedd...yr un, bob un - ein Iesu ni, Iesu i ni, Iesu trosom. ... y clod, y mawl, y parch a’r bri fo byth i enw’n Harglwydd ni. (William Williams; ibid)