NEWYDDION Y SUL

Tachwedd...daw’r flwyddyn i afael y gaeaf ym mis Tachwedd. Pur anaml inni’n barod i’r gaeaf; fe ddaeth eleni eto’n sydyn, a phrofi cylchrediad y gwaed yn ein gwythiennau a lluchio glaw yn erbyn ein ffenestri. Nid hoff gennym y gaeaf a’i gyfeillion. Mae curiad calon natur yn arafu yn y gaeaf; dylem ddiolch felly am bob arwydd o ynni ym mywyd yr eglwys, ac am bob ffyddlondeb i achos Iesu Grist yn ein plith. 'Rydym yn ddyledus i’r rheini ohonom sydd yn hynod weithgar, rhai yn yr amlwg, ac eraill, yn llawn mor ddyfal, o’r golwg.

Thema’r Oedfa Deulu oedd y rhif ‘3’; ond cyn mynd i'r afael â '3' a'i arwyddocâd, gwahoddwyd ni gan y Gweinidog i ymdawelu, a chofio'n dawel teuluoedd ac anwyliaid teithwyr yr awyren KGL9268. 'Does dim geiriau cymwys, cynhaliwn y galarus â’n gweddïau.

Wedi’r Gweinidog dderbyn adnodau’r oedolion, plant a phlantos, arweiniwyd y defosiwn gan Shani a Connor. Cafwyd ganddynt blethwaith o adnod, stori a gweddi, ac yn echel i’r cyfan: Tachwedd.

Enw drwg, mynnai Connor sydd i fis Tachwedd. Mis diflas y glaw yw mis Tachwedd; mis a’r Nadolig mor agos, ac eto...mor mor bell i ffwrdd yw mis Tachwedd. Mis du yw Tachwedd, a gyda hynny fe’n harweiniwyd ganddo i wawl y weddi fach hon o eiddo Ieuan S. Jones (CFf.:606):

O! cadw ni, ein Duw,

mewn dyddiau du,

rhag colli rhamant byw

dan ofnau lu.

Ychwanegodd Shani mai enw hen iawn ar fis Tachwedd yn Lloegr oedd Blodmonath, mis y gwaed; ac yn wir, hen air am ladd yw ‘tachweddu’! Ond, mae ambell i beth na ellir ei ladd, byth!

Wrth gofio’i goncwest ef

y trydydd dydd,

tydi, O! Frenin nef,

cryfha ein ffydd.

Gŵyl yr Holl Saint y gelwir heddiw. Tanlinellwyd, gan Connor, y gwirionedd holl bwysig nad Gŵyl i gofio’r Saint mo heddiw; wedi'r cyfan mae gan bob Sant ei ddydd gŵyl ei hun! ‘Roedd y gynulleidfa gegrwth wrth i Shani ag yntau rhestri, bob yn ail, yr holl Seintiau Cymreig sydd â heddiw yn ddygwyl iddynt: Aelhaern, Bigal, Cadfan, Caffo, Callwen, Cedol, Clydau, Clydwyn, Cynfelin, Dwna, Gwenfyl, Gwenrhiw, Gwynlleu, Gwrin, Gwryd, Gwyddin, Gwynnoro, Morhaearn a Rhwydrys! Mae Dydd Gŵyl yr Holl Saint yn gyfle i bobl fel ni cael dathlu pobl fel ni. Heddiw yw dydd gŵyl yr holl saint - dyma ein dydd gŵyl NI!

Rho hyder yn y gwir

i deulu’r ffydd

a gweledigaeth glir

o’r nefol ddydd. Amen.

Bwriad y Gweinidog oedd mynd i’r afael â chwe thriawd, ac ‘roedd pump ohonynt, meddai ar goll yng nghanol y cymysgedd isod o eiriau.

Fesul sedd, trwy’r trwch, buom yn ddyfal yn gosod y triawdau mewn trefn:

Aaron, Moses a Miriam: TEULU.

Pedr, Iago, Ioan: FFRINDIAU.

Sadrach, Mesach, Abednego: DEWR.

Ffydd, Gobaith, Cariad: PWYSIG.

Tad, Mab ac Ysbryd Glân - ANODD DEALL.

Wedi cael y cyfan mewn trefn, datblygwyd y neges: Mae eglwys Minny Street yn DEULU; FFRINDIAU Iesu Grist ydym. Fel Sadrach, Mesach, Abednego: rhaid bod yn DDEWR mewn Ffydd; mentrus mewn Cariad, hyderus mewn Gobaith, gan mai Ffydd, Gobaith, Cariad yw’r pethau PWYSICAF o’r holl bethau pwysig. Er mai ANODD DEALL yw’r Drindod Tad, Mab ac Ysbryd Glân, rhaid cofio cofio mae Cariad yw’r tri yn un, a’r un yn dri: cariad sydd ynom, amdanom a thrwom yn gweithio bob amser.

Daeth yn amser i ddod ynghyd wrth y Bwrdd. Cafwyd cyfle i lawenhau gyda’r rhai sy’n llawenhau, ac wylo gyda’r rhai sy’n wylo (Rhufeiniaid 12: 15). Estynnwyd ein cydymdeimlad â’r galarus yn ein plith; ein dymuniadau gorau i ddau yn dechrau ar fywyd newydd gyda’i gilydd fel gŵr a gwraig a'n llongyfarchiadau gwresog i rieni drilliaid newydd-anedig! Cofiwyd am gyfeillion a fu o dan gwmwl afiechyd a gwendid yn ystod y mis aeth heibio. Dymunwyd iddynt adferiad buan, ac ymwared o’i anhwylderau.

Trwy gyfrwng y triawd olaf fe’n harweiniwyd at y Bwrdd: Les Misérables (1862); Notre Dame de Paris (1831) a The Toilers of the Sea (1866). Victor Maire Hugo (1802-1885) sydd biau’r tair nofel, ac yn fras, testun y gyfres yw ofn. Mae’r cyntaf Notre Dame de Paris (1831), yn ymdrin ag ofn pobl o Dduw. Mae Les Misérables yn mynd i’r afael ag ofn pobl o’i gilydd. Yr olaf yw The Toilers of the Sea (1866) ac mae honno yn ymdrin ag ofn pobl o natur. Mynnai’r Gweinidog fod ofn rywbeth ar bawb. Mae pryder yn pwyso, a gofid yn gwasgu arnom i gyd, o’r ieuengaf i’r hynaf. Canol ein ffydd, meddai yw derbyn nad dal ein gafael ar Dduw mo Iachawdwriaeth, ond yn hytrach, Duw yn gafael ynom.

Er nad yw plant yn cymuno yn eglwys Minny Street, mae’n fwriad gennym fod y plant a’r plantos yn dysgu'n gynnar iawn beth yw arwyddocâd a gwerth y ddefod hon. I wneud hynny, rhaid iddynt ddeall beth sydd yn digwydd, ac o’r herwydd symleiddiwyd y geirfa ac addaswyd y delweddau’r mymryn lleiaf i ddiben Oedfa Gymundeb Foreol i gynnwys, ac felly addysgu a pharatoi’r ifanc yn ein plith.

Er i’r Oedfa orffen; cafwyd cyfle i barhau ein gwasanaeth yn y Tabernacl, yr Âis. Ein braint heddiw, fel eglwys, oedd cael bod yn gyfrifol am baratoi te i’r digartref. Da gweld cynifer o bobl ifanc yr eglwys yn ymroi i’r gwaith hwn.

Yn yr Oedfa Hwyrol, cawsom ein tywys gan ein Gweinidog i un o ddarnau mwyaf cyfarwydd a phwysig y Testament Newydd: Philipiaid 2: 1-11, gan ganolbwyntio ar

...yr enw mwyaf mawr

erioed a glywid sôn...

(William Williams, 1717-91; CFf.:312)

...yr enw sydd goruwch pob enw... (Philipiaid 2:9): ‘Iesu’

‘Iesu’ oedd yr enw a gafodd yn faban. Bydd (Mair) meddai’r angel wrth Joseff, yn esgor ar fab, a gelwi ef Iesu, am mai ef a wareda ei bobl oddi wrth eu pechodau (Mathew 1:21). ‘Iesu’: Gwaredwr. I werthfawrogi anferthedd yr enw sydd goruwch pob enw, rhaid sylweddoli anferthedd yr hyn oll y mae Iesu’n gwaredu ni rhagddynt.

‘Iesu’ oedd yr enw a enillodd fel dyn ...fe’i darostyngodd ei hun, gan fod yn ufudd hyd angau, ie, angau’r ar groes (Philipiaid 2:8). Cafodd Iesu ei enw y tro cyntaf mewn addewid: ...gelwi ef Iesu, am mai ef a wareda ei bobl oddi wrth eu pechodau. Nid digon oedd cael yr enw ‘Iesu’; ‘roedd yn rhaid iddo ennill yr enw hwnnw; ei haeddu, a’i lenwi pob modfedd. I achub hyd yr eithaf, ‘roedd yn ofynnol iddo fod yn ufudd hyd yr eithaf i uchel alwadau pwrpas Duw. A dyna a fu, yn ufudd: ...fe’i darostyngodd ei hun, gan fod yn ufudd hyd angau, ie, angau’r ar groes.

Gallasai Paul fod wedi gadael y stori gyda’r Croeshoeliad, ond nid yw’r stori’n gyflawn felly. Am hynny tra-ddyrchafodd Duw ef, a rhoi iddo’r enw sydd goruwch pob enw...(Philipiaid 2:9). Y mae’r ffydd sy’n brin o gydnabod arglwyddiaeth ‘Iesu’ ar bob agwedd o fywyd yn ffydd sydd yn brin o iachawdwriaeth. Mae’r enw sydd goruwch pob enw...mor wefreiddiol, a’r weledigaeth mor enfawr, a’r gwirionedd mor gynhwysfawr fel nad oes modd i’r cread mawr ei hun a’i holl alluoedd beidio ymollwng i ganu clodydd yr hwn sydd yn teyrnasu: ...fel wrth enw Iesu y plygai pob glin yn y nef ac ar y ddaear a than y ddaear, ac yn y cyffesai pob tafod fod Iesu Grist yn Arglwydd, er gogoniant Duw Dad (Philipiaid 2:10,11).

Yr ‘Iesu’ hwn: Iesu’r preseb; Iesu’r groes; Iesu’r Orsedd sydd o’n plaid. Felly

...y clod, y mawl, y parch a’r bri

fo byth i enw’n Harglwydd ni.

Diolch am fendithion y Sul. Edrychwn ymlaen at y Sul nesaf. Bydd yr Oedfa Foreol Gynnar (9:30) dan ofal Menna. Yn yr Oedfa Foreol (10:30), â hithau’n Sul y Cofio, testun ein Gweinidog fydd ...canys chwi oll un ydych yng Nghrist Iesu (Galatiaid 3:28b WM). Parhawn gyda’r gyfres ‘Efengyl Marc a’r Flwyddyn 70' yn yr Oedfa Hwyrol (6) gan droi at Marc 1:1-13. Boed bendith.

Cyfrannu Ail Dunnell o Fwyd. Her a Hwb mis Tachwedd!

Fel eglwys 'rydym yn anelu at gyfrannu ail dunnell o fwyd i Fanc Bwyd Caerdydd erbyn y Nadolig. Diolch i haelioni aelodau, eisoes danfonwyd dros 700 kg o fwyd i’r warws yn Sblot. Rydym yn hyderus y gallwn gyrraedd y nod erbyn y Nadolig ond i sicrhau hynny bydd angen ymdrech arbennig ym mis Tachwedd i roi hwb ymlaen.

Byddwn fel arfer yn cyfrannu tua 100 kg o fwyd y mis i’r banc bwyd. Ym mis Tachwedd byddwn yn anelu at ddyblu hynny a chyfrannu o leia 200 kg. Mae hyn yn dipyn o her, and awn amdani gan gofio bod dros 10,000 o bobl wedi derbyn bwyd gan Fanc Bwyd Caerdydd yn ystod y flwyddyn 2014/15 a bod dros gant o bobl wedi curo ar ddrws y banc bwyd yn y brifddinas ar noswyl y Nadolig y llynedd mewn argyfwng.

Byddwn yn casglu bwyd ar ail Sul y mis - 8 Tachwedd – ond mae modd rhoi bwyd yn y blychau casglu yn y festri ar unrhyw adeg. Gan fod warws y Banc Bwyd fel arfer yn derbyn hen ddigon o fwydydd Nadoligaidd (siocled, teisennau ayyb) yn ystod mis Tachwedd a Rhagfyr, gofynnwyd i ni ganolbwyntio ar y bwydydd sylfaenol y mae galw cyson amdanynt, sef, ar hyn o bryd: sudd ffrwythau UHT, pasta a saws (pasta ‘n sauce), noodles, reis sawrus (savoury rice), pwdin sponge a jam.

Cofiwch hefyd fod modd i chi gefnogi’r ymgyrch hon trwy gyfrannu arian. Gellid defnyddio cyfraniadau ariannol i brynu bwyd priodol.

Er na ddaethom i'r brig, da gennym gyrraedd rhestr fer Premier Digital Awards 2015/Most Engaging Small Church Site.