REBECA
Genesis 24: 1, 4, 10-11, 17 a 27: 1-2, 5, 42, 43, 45
Mi hoffwn droi’r stori hon yn ddrama ag iddi dair act:
Act 1: Min nos, merch ifanc hardd, stên wag ar ei hysgwydd yn cerdded yr hen lwybr i’r ffynnon. Nid ar ei phen ei hun mohoni. Gwragedd eraill, hen ac ifanc yn siarad a chwerthin, yn hel newyddion y dydd. Mae dieithryn wrth y ffynnon, deg o gamelod ganddo. Wrth i’r ferch ifanc lenwi’r stên, brysiodd y dieithryn ati a holodd am ddŵr ganddi. Fe gafodd ddŵr, a chododd beth i’w gamelod hefyd. ‘Roedd gwas Abraham wrth ei fodd. ‘Roedd Duw wedi ateb ei weddi. Dyma’r arwydd iddo, darpar wraig Isaac fyddai’r un i dynnu dŵr o’r ffynnon a’i gynnig iddo ac i’w gamelod hefyd. Rebeca oedd ei henw.
Act 2: Rebeca yn hydref ei bywyd. Wedi hir aros, ganed efeilliaid, Jacob ac Esau. Esau, y cyntaf-anedig, cryf ac eofn, ffefryn Isaac. Jacob, tawel, bob amser wrth ochr ei fam. A haul y dydd yn prysur fachlud, galwodd Isaac am Esau; ’roedd i dderbyn bendith ei dad. Aeth Rebeca ati i gynllwynio gweithred ddofn a thywyll. Rhaid i Jacob nid Esau dderbyn bendith Isaac cyn iddo farw. Gyda chymysgedd o gawl carw, croen gafr, dychymyg a phenderfyniad diwyro ei fam, cipiodd Jacob fendith ei dad oddi ar Esau. Pan ddychwelodd Esau a deall iddo gael ei dwyllo penderfynodd ladd Jacob. Clywodd Rebeca ei fygythion. ’Roedd y twyll a’r cynllwynio yn mynd i gosti’n ddrud iddi. ’Roedd rhaid iddi ollwng gafael ar Jacob, yr un a garai yn fwy na neb. Galwodd amdano a’i rybuddio; mewn dychryn a braw ffarweliodd yntau â’i fam.
Act 3: Nifer o flynyddoedd ers i Jacob adael. Rebeca yn byw gyda mab, na allodd anghofio rhan ei fam yn ei dwyllo o’i etifeddiaeth, a gŵr a gollodd, yn naturiol ddigon, ddogn o’r ffydd oedd ganddo ynddi a’r cariad oedd ganddo tuag ati. Ni welodd Rebeca Jacob byth eto.
JACOB
Genesis 28: 10-15
Mae Jacob yn wynebu ar ei noson gyntaf oddi cartref, heb gysgod aelwyd na rhieni. Gwely anghysurus iawn a gafodd, ond llwyddodd i gysgu. Yn ei gwsg cafodd freuddwyd: ysgol yn cydio’r ddaear wrth y nef, a Duw ei hun yn sefyll ar frig yr ysgol yn llefaru wrtho. Disgwyliwn ar i Dduw ei geryddu’n llym am ei holl driciau budr; nid cerydd ond cysur a roddwyd i Jacob - "Wele, yr wyf fi gyda thi." Rhyfedd amynedd yr Arglwydd Dduw!
- Beth yw eich barn am y ddau osodiad o eiddo Jean-Paul Satre: Lle mae pobl mae uffern; ac Uffern yw pobl eraill?
- Yn sgil profiad Rebeca a Jacob, trafodwch eiriau Idwal Lloyd:
Yn fy nghryfder mae fy ngwendid
Yn fy ngwendid mae fy nerth,
Yn fy nghyfoeth mae fy nhlodi,
Yn fy nhlodi mae fy ngwerth.
- Beth, ym marn y grŵp yw gwir edifeirwch?