• Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu
Menu

Eglwys Minny St.

Street Address
City, State, Zip
Phone Number

Your Custom Text Here

Eglwys Minny St.

  • Y diweddaraf
  • Hafan
  • Amdanom
  • Dyddiadur
  • Yr Ifanc
  • Cysylltu

'YMLAEN': Y SUL A'R WYTHNOS NEWYDD

October 20, 2017 Owain Evans

Dros y Sul, ein braint fel eglwys fydd cael gwrando cenadwri a derbyn arweiniad gan y Parchedig Guto Prys ap Gwynfor (Llandysul). Gwyddom y cawn ganddo bregethu meddylgar a phregethau buddiol a bendithlawn. Gweddïwn am wenau Duw ar Oedfaon y Sul. Yn ôl ein harfer, bydd yr Oedfa Foreol am 10:30. Cynhelir yr Ysgol Sul, a bydd ein plant a phlantos yn ymdrin â hanes Iesu’n dewis disgyblion (Mathew 4:18-22). Parhawn i barchu gorchymyn Iesu, Portha fy ŵyn, a’n llafur yn ddiarbed i hyfforddi ein plant a phobl ifanc. Bydd yr Oedfa Hwyrol am 18:00.

PIMS nos Lun (23/10). Bydd y PIMSwyr hŷn (Blynyddoedd 10-13) yn ymweld â’r Boiler House Graffiti Project (18:30-20:00). Bydd y cwmni iau (Blynyddoedd 7-9) yn cwrdd yn y festri fel arfer (19:00-20:30)

Taith Gerdded Parc y Rhath bore Mawrth (24/10; 10:30-12:30). Manylion llawn yng nghyhoeddiadau’r Sul.

Nos Fawrth (24/10; 19:30-20:30): ‘Bethania’. Echel ein trafodaeth eleni yw ‘Pobl yr Hen Destament’. Testun ein sylw y tro hwn fydd Rebeca a Jacob. Darperir nodiadau ‘Bethania’ rhag blaen ar y wefan hon bore dydd Llun.

← 'BETHANIA' - POBL YR HEN DESTAMENT (3)PWY DDWEDODD? (7) ATEB →

Eglwys Annibynnol Minny St.
Y Waun Ddyfal, Caerdydd
CF24 4ER

Lawrlwytho
Dogfennau

©minny St 2021