'BETHANIA': LLYFR JOSUA (8)

Testun y dysgu a’r trafod yn ‘Bethania’ eleni yw Llyfr Josua - un o lyfrau anoddaf y Beibl ydyw; llyfr yn drwm o ryfela, lladd a dinistr.

Josua 22:1-9

Teyrngarwch Cofiwn i filwyr Gad, Reuben a hanner llwyth Manasse adael eu cartrefi y tu draw i’r Iorddonen ac ymuno â’u cydwladwyr i feddiannu Canaan. Roedd eu presenoldeb yn rhengoedd Israel yn angenrheidiol os oedd y bobl am feddiannu’r tir. Bellach, mae’r ymladd drosodd ac y maent yn cael dychwelyd at eu teuluoedd. Wrth ffarwelio â hwy yn Seilo mae Josua yn dangos ei werthfawrogiad trwy gymeradwyo eu teyrngarwch. Ni adawsoch eich brodyr, er ys llawer o ddyddiau bellach, hyd y dydd hwn, ond cadwasoch reol gorchymyn yr Arglwydd eich Duw. (adnod 3)

Roeddent wedi bod yn deyrngar i Josua, y bobl ac yn deyrngar i Dduw. Y mae’r teyrngarwch hwn, sydd wedi gwneud y fath argraff ar Josua, yn awgrymu dau beth.

Yn gyntaf, fod y milwyr yn ddibynadwy. Nid oeddent yn debygol o gefnu ar Josua a’r bobl am fod y frwydr yn galed, neu am fod ganddynt hiraeth am eu cynefin. Roeddent yn deall fod teyrngarwch yn gosod ffiniau pendant ar eu gweithgareddau. Os am fod yn driw i’r llwythau eraill, roedd yn rhaid iddynt roi anghenion y lleill o flaen eu hanghenion eu hunain. Mae’r un peth yn wir amdanom ninnau. Mae teyrngarwch i fudiad neu egwyddor neu gwmni o bobl neu unigolyn yn gosod ffiniau na ddylem eu croesi. Ni allwn wneud fel y mynnom.

Yn ail, y mae teyrngarwch y ddau lwyth a hanner i’r Arglwydd yn profi dilysrwydd eu ffydd. Roeddent wedi ymgartrefu y tu draw i’r Iorddonen am beth amser cyn i Josua ddod ar eu gofyn. Ond er eu bod yn byw ymysg pobl nad oedd yn credu’r un fath a hwy, ni chollasant eu gafael ar eu crefydd hwythau. Er bod y demtasiwn i ddilyn Baal yn eu hwynebau, cadwasant yr hyn oll a orchmynnodd Moses gwas yr Arglwydd (adnod 2). Enillodd eu ffyddlondeb barch a chlod Josua, Disgwylir i’r Cristion yntau fod yn deyrngar i’w Arglwydd yn wyneb materoliaeth yr oes. Y mae ei ffyddlondeb yn brawf o’i ffydd.

Josua 22:10-20

Wedi ffarwelio â Josua, aeth milwyr y ddau lwyth a hanner i lawr at yr Iorddonen ar eu ffordd adref. Cyn croesi, codasant allor ar lan yr afon. Er ei bod wedi ei chynllunio’n debyg i’r un oedd yn Seilo, nid allor aberthu arni a’i defnyddio’n rheolaidd mewn addoliad oedd hon. Bwriad Gad a Reuben oedd codi cofgolofn a dystiai am byth i’r ffyddlondeb i’r Arglwydd ac i’w hundeb gyda’r llwythau eraill; dyna pam y disgrifir yr allor yn allor fawr mewn golwg (adnod 10). Roeddent am i’w plant wybod am deyrngarwch eu tadau i Dduw ac i’w cyd-ddynion.

Ond fe aeth pethau o chwith. Nid fel arwydd o undod a ffyddlondeb y gwelodd y gweddill o’r llwythau'r allor. Tybiasant fod eu brodyr yn ceisio cystadlu â hwy ar faterion crefyddol trwy sefydlu cysegrle arall. Iddynt hwy, nid symbol o undod a ffydd ond o arwahanrwydd o wrthgiliad oedd y golofn yn ymyl yr Iorddonen. Yn sicr, deuai llid yr Arglwydd ar Israel gyfan am hyn (Gweler adnodau 18 a 19). Heb aros am gadarnhad o’u damcaniaeth, paratôdd arweinwyr Israel i ymladd â’u brodyr a chwiorydd a’u cosbi. Trwy drugaredd, fe’u perswadiwyd i anfon negeswyr yn lle milwyr, ac o ganlyniad cafodd y llwythau osgoi rhyfel a lladd.

Camddealltwriaeth yn seiliedig ar achlust (rumour) oedd wrth wraidd y gynnen. Sylwn ar y geiriau: A chlybi feibion Israel ddywedyd, Wel, y mae ... (adnod 11). Daethant i benderfyniad brysiog cyn sicrhau cywirdeb y ffeithiau. Mae llawer cyfeillgarwch clos wedi dod i ben oherwydd achlust a malais. Gochelwn rhag cario achlust ac achosi niwed i eraill trwy siarad gwag. Cofiwn anogaeth Paul yn y llythyr at yr Effesiaid: Nid oes yr un gair drwg i ddod allan o’ch genau, dim ond geiriau da sydd er adeiladaeth yn ôl yr angen, ac felly’n dwyn bendith i’r sawl sy’n eu clywed (4:29).