Edrychwn ymlaen at yr Oedfa Foreol Gynnar (12/1 am 9:30 yn y Festri). Testun ein sylw fydd dau o ffrindiau Iesu ... nad oeddent yn ffrindiau i’w gilydd! Boed hwyl a bendith.
Gweinir brecwast bach a nwyddau Masnach Deg yn y Festri rhwng y ddwy Oedfa Foreol.
Am 10:30, ein Hoedfa Foreol. Parhau yn y Festri gan barhau â’r gyfres o bregethau: Lliw a Llun. Clywsom sôn am bregeth tri phen, ond pregeth tri llun sydd gan Owain ar ein cyfer: ton enfawr; llwyd a lludw, a Heddwch yn deisyf cymod. Am wybod rhagor ... dewch â chroeso.
Ers sawl blwyddyn bellach, ‘rydym yn cynnal Gwasanaeth Plygain ar ddechrau’r flwyddyn newydd. Buom yn ei gynnal yng nghapel syml Bethesda’r Fro ond erbyn hyn eglwys hardd Teilo Sant yn Sain Ffagan yw’n cyrchfan (14:00). Y Parchedig Ddr R. Alun Evans, aelod ‘anrhydeddus’ gyda ni yn Eglwys Minny Street sydd wedi arwain ein Plygain lawer tro, a mawr ein diolch iddo ac i bawb a fu ynglŷn â’r trefnu. Hanfod y Blygain yw eich bod chi’n dod i gymryd rhan; a da fydd gweld eto’r eglwys ynghyd, o’r ieuengaf i’r hynaf, yn cymryd rhan gydag asbri. Bydd cinio yn Yr Hen Dŷ Post, Sain Ffagan cyn y Blygain (rhaid bod wedi archebu ymlaen llaw). Boed bendith a mwynhad.
Liw nos (18:00) bydd Owain yn parhau â’r gyfres ‘Hoff Adnodau’. Ein hoff adnodau fel Cristnogion; adnodau a fu, sydd ac a fydd byth yn gynhaliaeth i bobl ffydd. Rhaid, wrth gwrs, oedd dewis a dethol - tua 40 - o adnodau, ond cystal cydnabod fod y dasg o ddewis a dethol 40 o’n hoff adnodau fel Cristnogion yn anodd iawn, ond gwaith hawdd, os gwaith o gwbl wir, oedd cynnwys Salm 121, ond pa adnodau ohoni’n benodol? Bydd Owain yn troi at yr adnodau sydd orau ganddo: Dyrchafaf fy llygaid i’r mynyddoedd, o’r lle y daw fy nghymorth. Fy nghymorth a ddaw oddi wrth yr ARGLWYDD ... (121:1,2). Boed bendith.
Nos Lun (13/1; 19:00-20:30) PIMS.
Nos Fawrth (14/1; 19:30-20:30): ‘Bethania’. Echel ein trafodaeth eleni yw ‘Josua’. Darperir nodiadau ‘Bethania’ rhag blaen ar y wefan hon bore dydd Llun.
Koinônia amser cinio dydd Mercher (15/1): Mae ‘na fwy i bryd o fwyd o gwmpas bwrdd na bodloni’r archwaeth am fwyd. Mae’n gyfle i rannu syniadau, i drafod, i gymdeithasu a dod i nabod ein gilydd yn well. Dyna sy’n digwydd yn y Koinônia misol.
Babimini bore Gwener (17/1; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae a chwerthin.