'Munud i Feddwl' ein Gweinidog
Oes arnoch ofn y tywyllwch?
Nid oes ofn tywyllwch ar y dolffin. Nid oes angen i ddolffin fod ag ofn tywyllwch. Mae dolffin yn gallu gweld yn y twyllwch - gweld trwy glywed. Mae gan ddolffin system eco-leoli sonar, gall weld seindonnau. Tybed felly os yw’r byd yn stŵr o liw pan mae’r dolffin yn torri wyneb y dŵr ac yn defnyddio eto’i lygaid mamalaidd - llygaid fel ein llygaid ni? Efallai mai dyna pam mae’r dolffin fel plentyn yn chwarae wrth agosáu at wyneb y dŵr - mae ei fyd eto’n llawn lliw!
Mae ofn tywyllwch ar bobl. Ofn sydd â’i wreiddiau’n ddwfn iawn yn ein hanes - hen hen ofn yn mynd nôl i gyfnod ein cyndeidiau. ‘Roedd ein cyndeidiau yn treulio rhannau helaethaf o’u bywydau mewn tywyllwch. Tywyllwch cas oedd y tywyllwch cynnar hwnnw - tywyllwch a fu’n gwasgu a gwthio yn erbyn gwawl a gwres tanau’r gwersyll. ‘Roedd y tywyllwch fel petai am lyncu’r golau, am ladd y gwres, am ddiffodd y tân. ‘Roedd dreigiau yn y nos, a bleiddiaid yn udo, bwganod a’i sgrech fel toriad calon, a llygaid yn sbecian. Llyncwyd pobl gan y tywyllwch. ‘Roedd y ddunos o gylch ein cyndeidiau’n teyrnasu.
A ninnau’n noeth, yn wan ac yn ddall yn y twyllwch daeth technoleg i’r adwy. Yn noeth, mynnom groen a chot yr anifail; yn wan aethom ati i hogi crafangau o garreg, a dannedd o bren; yn ddall aethom ati i ddarganfod ffyrdd i ddal y tywyllwch hyd fraich gyda thân a golau.
Er dal yn amheus o’r tywyllwch, ‘rydym erbyn hyn hefyd yn chwilfrydig iawn amdano - mynnwn edrych i mewn iddo, a syllu i bob hollt a thwll. Lle bynnag mae cilfachau a chorneli tywyll yn y byd hwn, mae pobl yno’n cyfeirio golau i’r tywyllwch i weld beth sydd yn ynddo’n cuddio. Mae goleuadau Nadolig eisoes wedi ymddangos. Pam? Ai i ddangos nad yw’r tywyllwch yn teyrnasu? Mae ein bywyd cyfoes yn ddisglair o oleuadau. Llwyddasom i ddofi’r tywyllwch, bu i ni ei wthio allan o’n byw a’n bod.
Ond mae sawl math o dywyllwch yn bod: tywyllwch golau yn un, ceir hefyd tywyllwch enaid, tywyllwch meddwl. Mae’r ddau olaf hyn dipyn mwy brawychus na thywyllwch y ddunos, ac anos i’w dirnad, dehongli a’i datrys.
‘Roedd y seicolegydd Carl Jung (1875-1961) yn honni bod ochr dywyll i bawb ohonom. Soniodd am ein hisymwybod fel dŵr dwfn a thywyll. Tywyllwch yn gwasgu a gwthio yn erbyn gwawl a gwres tanau’r gwersyll ein byw a’n bod. Tywyllwch sydd am lyncu’r golau, am ladd y gwres, am ddiffodd y tân - tywyllwch sydd am ein bwyta’n fyw. Mae dreigiau yn y nos hon hefyd, a bleiddiaid yn udo, bwganod a’i sgrech fel toriad calon, a llygaid yn sbecian. Llyncir pobl gan y tywyllwch hwn. Mae’r ddunos o’n cylch yn teyrnasu o hyd. O bob tywyllwch dyma’r dyfnaf, trymaf a thewaf.
Procio’r tywyllwch â gwaywffyn a wnâi ein cyndeidiau a cheisio’i yrru’n ôl â thân. ‘Rydym ninnau yn ceisio gwthio ymylon y tywyllwch mewnol yma gyda gweddi ac addoliad, cyffuriau a therapi, llyfrau self-help a phrysurdeb.
Fe wyddai Ioan am dywyllwch. Y mae’r goleuni, meddai, yn llewyrchu yn y tywyllwch, ac nid yw’r tywyllwch wedi ei drechu ef (Ioan 1:5 BCN).
Daeth goleuni Duw yng Nghrist i’r byd i oleuo’r tywyllwch. Ond mae rhywbeth ynom, er gwaethaf ein harswyd ohono, yn mynnu rhedeg i freichiau’r tywyllwch. Daeth goleuni Duw i’r byd, ond ni dderbyniodd y byd mohono. Hyd yn oed wrth i’r goleuni lewyrchu ynom ac o’n cwmpas, awn i guddio rhagddo. Mae ‘na lais o’n mewn yn gweiddi ‘Na!’ i’r goleuni.
Beth yw’r llais hwn? O ble y daw? Sut mae tawelu’r llais un waith ac am byth? Fe hoffwn gael gwybod - ac o wybod, rhannu - yr atebion i’r cwestiynau hyn, ond nid oes atebion gennyf. Un o bennaf fendithion yr Adfent yw’r cyfle i gydnabod ein hangen am oleuni, a chyfaddef hefyd ein harswyd ohono.
Hwnt ac acw yn y capel i’r Gwasanaeth Naw Llith a Charol y nos Sul aeth heibio ‘roedd canhwyllau bach. Diferion bychan bach o oleuni. ‘Roedd rhywbeth yn druenus amdanynt ... yn druenus fel ninnau - pobl ffydd. Pobl bach ydym mewn byd mawr. Canhwyllau bychan ydym mewn môr o dywyllwch. Pwy fuasai’n mentro’r cyfan ar gwmni mor fach, mor dila? Duw. Dim ond Duw. Dyna pam yr ydym, yr Adfent hwn eto, yn adrodd y stori am lewyrch y goleuni, ac yn mynnu, fel ag y medrwn, cyfeirio’i olau i ganol y tywyllwch.
(OLlE)