1+1+1=1

A chwithau, wedi ichwi glywed gair y gwirionedd, Efengyl eich iachawdwriaeth, ac wedi ichwi gredu ynddo, gosodwyd arnoch yng Nghrist sêl yr Ysbryd Glân, yr hwn oedd wedi ei addo. Yr Ysbryd hwn yw’r ernes o’n hetifeddiaeth, nes ein prynu’n rhydd i’w meddiannu’n llawn, er clod i ogoniant Duw. (Effesiaid 1: 33-14 BCN)

Cariad Tri yn Un

at yr euog ddyn,

cariad heb ddim dechreuad arno,

cariad heb ddim diwedd iddo;

cariad gaiff y clod

tra bo’r nef yn bod.

(Gwilym Hiraethog 1802-83; Caneuon Ffydd 38)

Y Tri yn Un, a’r Un yn Dri, y Duw sy’n Dad, Mab ac Ysbryd Glân, yr hwn fel Crëwr sydd yn cynnal, fel Gwaredwr yn maddau ac eiriol trosom ac fel Ysbryd yn gwmni ar y daith. Cariad Tri yn Un ...

Ond, nid yw un yn dri na thri yn un! Eto, yn y Duwdod, mae felly! Nid esbonio’r dirgelwch yw’r nod, ond ei gofleidio, ei fyw! Ar ben tŵr Eglwys Holy Trinity, St Austell, Cernyw mae darlun mewn carreg o’r Drindod. I’w weld ar ei orau, rhaid camu yn ôl i sgwâr y farchnad a dringo grisiau yn y fan honno, cyn troi cefn ar sŵn a ffwdan y gwerthu a’r prynu, ac edrych i fyny. Cawn Dduw y Tad, fel brenin yr oesoedd, wedi ei goroni a’i orseddu ar gymylau’r nef. Mae Duw yn cynnal croes ac ar hon, mae ei fab, Iesu. Yn hedfan allan o law'r Tad, ac yn eistedd ar ben y Mab, yn wreiddiol ... ’roedd colomen, yn arwydd o’r Ysbryd Glân. Yn anffodus, mae’r gwynt a’r glaw wedi araf ddileu’r golomen, ac nid oes yno atgof ohoni. Rhaid i ni ei gweld hi â llygaid ffydd. Mae’r ffaith nad yw’r golomen yn weladwy yn symbol ynddo’i hunan o bresenoldeb anweledig, ond real ddigon, yr Ysbryd yn ein plith.

"O Dduw ein dirgelwch, ti sy’n ein dwyn i fywyd, yn ein galw i ryddid, ac yn symud rhyngom mewn cariad: gad i ni yn y fath fodd ymuno yn naws y Drindod, fel y bydd i’n bywydau d’adleisio di, yn awr a byth bythoedd." Amen

(Dawns y Drindod gan Janet Morley, cyf. Enid Morgan yn Amser i Dduw. Trysorfa o weddïau hen a newydd Gol. Elfed ap Nefydd Roberts Cymdeithas Lyfrau Ceredigion Gyf, 2004)

(OLlE)