'Reformation Day': Cofio Martin Luther a'i ’95 Pwnc yn erbyn Maddeuebau’
'Thesentűr' (Drws y 95 Pwnc) Schlosskirche, Wittenberg. (Llun: BBC)
‘Roedd angen arian yn fwy nag erioed ar y Pab tua’r flwyddyn 1517. ‘Roedd yn fwriad ganddo adeiladu eglwys wych, gostfawr Sant Pedr yn Rhufain, ac er mwyn codi’r swm enfawr o arian i dalu amdani caniatâi i swyddogion eglwysi fynd o amgylch Ewrop i ‘werthu maddeuant.’ Os pechai dyn, y cyfan oedd yn angenrheidiol iddo oedd talu swm o arian, a byddai ei bechod, meddid, wedi ei faddau. Ni allai Martin Luther oddef hyn, ac ar Hydref 31, 1517 gosododd Luther ei ’95 Pwnc yn erbyn Maddeuebau’ ar ddrws Eglwys y Castell yn Wittenberg; ar y drws hwnnw y rhoddid hysbysiadau’r Brifysgol. Synnai pawb at y weithred feiddgar; ond mentrodd Luther ymhellach gan gyhoeddi ei fod yn barod i amddiffyn y gosodiadau hyn yn gyhoeddus. Y weithred hon oedd catalydd y Diwygiad Protestannaidd.
"Y mae gan y Saeson gwell enw na ni arnynt. Soniwn ni am Ddiwygiad Evan Roberts a’r Diwygiad Protestannaidd. Gair y Saeson yw ‘Welsh Revival’ a ‘Protestant Reformation’. Nid reformations yw’r cynyrfiadau a gofia rhai ohonom ni ond revivals. Y mae gwahaniaethau mawr rhwng revival a reformation, a reformation yn unig a gyferfydd â’n hangen heddiw."
(E.Tegla Davies; 1880-1967. ‘Y Ffordd’, Gwasg y Brython; 1959)
Ein nerth a’n cadarn dŵr yw Duw,
ein tarian a’n harfogaeth;
o ing a thrallod o bob rhyw
rhydd gyflawn waredigaeth.
Archelyn dyn a Duw
llawn o gynddaredd yw,
ei lid a’i ddichell gref
yw ei arfogaeth ef;
digymar yw’r anturiaeth.
Ni ellir dim o allu dyn:
mewn siomiant blin mae’n diffodd;
ond drosom ni mae’r addas Un,
a Duw ei hun a’i trefnodd.
"Pwy yw?" medd calon drist:
ein Ceidwad Iesu Grist,
Tywysog lluoedd nef,
ac nid oes Duw ond ef;
y maes erioed ni chollodd.
(Martin Luther, 1483-1546 cyf. Lewis Edwards, 1809-87; CFf.:121)
“Bydd drugarog wrthyf, O! Dduw, yn ôl dy ffyddlondeb; yn ôl dy fawr dosturi, dilea fy meiau; golch fi’n lân o’m heuogrwydd, a glanha fi o’m pechod” Amen
(Salm 51: 1-2)