Un o bleserau pennaf bywyd yw rhannu bara beunyddiol - eistedd wrth bryd o fwyd a rhannu cwmni cysurlawn a sgwrs dda.
Cefais gyfle yn ystod yr wythnos i ddal i fyny â hen gyfaill cyfnod coleg. Buom ers tro mewn cysylltiad trwy e-byst a negeseuon destun, ond gan ei fod ar ymweliad â Chaerdydd, cawsom gyfle i ddal i fyny’n iawn fel petai: wyneb yn wyneb dros ginio. Bwyty Eidalaidd braf, ac ‘roedd blys pysgodyn arnaf. Troi at yr adran bysgod: Chilean Sea Bass. Hyfryd. Mynegais fy awydd am y pysgodyn hwnnw, a dyna ddechrau gofidiau. Un o nodweddion cymeriad fy nghyfaill yw bod ganddo stôr enfawr o wybodaeth cyfan gwbl ddiangen, a chyn i mi cael cyfle i droi llif y sgwrs, meddai rywbeth tebyg i hyn: Do you know, Owain, ‘Chilean Sea Bass’ is a made up name for marketing a really rubbish fish - it’s all a marketing strategy that turns very undesirable fish into palatable new commodities for restaurants? ‘Google’ it... Mynnais nad oedd amser, nac amynedd gennyf i fynd i chwilio am y fath wybodaeth ofer. Daeth â’i ffon felly, o’i boced, a chwilio, ac wedi chwilio, rhannu’r ffrwyth ei ymchwil sydyn â mi: Enw go iawn y ‘Chilean Sea Bass’ yw’r ‘Patagonian Toothfish’, nid Bass mohono, a dim ond nawr ac yn y man, pan aiff ar goll y mae’r Patagonian Toothfish yn nofio’r dyfroedd ger Chile. Lee Lantz, gwerthwr pysgod o Los Angeles, mae’n debyg sydd yn gyfrifol am hyn o dwyll! Diolch byth, daeth yr amser i archebu!
Beth sydd mewn enw? Mae mwy o rym mewn enw nag y gwyddom. Nid label mohono. Pan ddywedwyd wrth Joseff y dylai enwi ei fab bychan yn ‘Iesu’, (Mathew 1:21) awgrymir gan Gabriel, enw â phwrpas iddo. Ystyr ‘Iesu’ yw ‘Mae Duw yn achub’. Mae’r enw ‘Iesu’ yn dweud y cyfan oll a’r oll yn gyfan sydd angen dweud am yr Arglwydd Iesu Grist.
Daw adegau pan ‘dw i’n gwbl argyhoeddedig mai Patagonian Toothfish ydwyf, a bod yn rhaid i mi argyhoeddi pawb arall mae Chilean Sea Bass ydwyf mewn gwirionedd. Onid ydym yn gwario cymaint o’n hamser, amynedd, egni yn marchnata ein hunain? Myn ein ffydd nad oes yn rhaid wrth y marchnata hwn. Daeth Duw atom, daeth atom i’n hachub, a chalon yr achubiaeth honno yw bod Duw yn ein caru. Plant Duw ydym; mae pob un ohonom yn blentyn i Dduw. Dyma ein gwir hunaniaeth - dyma beth ydym. Yr unig beth sydd yn ofynnol gennym yw derbyn hyn o wirionedd, a byw o’r herwydd yng ngoleuni anniffodd y wybodaeth honno.
Gan mai ystyfnig ydwyf o natur, archebais y Patagonian Toothfish, ac yn wir, 'roedd yn flasus iawn, iawn.
(OLlE)