Nid Sul, ond tymor yw'r Pasg: y deugain diwrnod a deg rhwng Sul y Pasg a'r Sulgwyn. ‘Rydym fel eglwys eleni yn cadw Tymor y Pasg, a hynny trwy gyfrwng myfyrdod byr beunyddiol ar y wefan, pwt o neges drydar, a phump o gyfarfodydd liw nos. Er bod y myfyrdodau beunyddiol yn newid cyfeiriad o hyd fyth, mae’r cyfarfodydd hyn yn dilyn trywydd penodol; heno: Iesu’n Ymddangos i’r Saith Disgybl; Adferiad Pedr a’r Disgybl Annwyl (Ioan 21), a hynny trwy gyfrwng y delweddau isod:
‘Crist wrth lan Môr Galilea’, Jacopo Tintoretto (1519-1594)
‘Miraculous Draught of Fishes’, John Reilly (1928-2010)
‘By the Beach’, Cody F. Miller (gan. 1972)
‘Cenhadaeth Pedr’, Jacob Jordaens (1593-1678)
‘Circle’, Peter Funch (gan. 1974)
‘Peter and John Running to the Sepulchre on the Morning of the Resurrection’, Eugène Burnand (1850-1921)
Yn ystod yr wythnos ddryslyd honno yn dilyn gosod corff Iesu mewn bedd, try Pedr at ei gyd-ddisgyblion, a dweud: Wn i ddim beth amdanoch chi, ond fedra i ddim goddef hyn ddim hwy, - mae’n rhaid i mi gael gwneud rhywbeth neu ddrysu - dwi’n mynd i bysgota. A ninnau, meddai’r gweddill, fe ddown hefyd, ac i ffwrdd â nhw ... ac wrth bysgota cawsant weledigaeth; cawsant weld Iesu.
Neges fawr Ioan 21 yw bod i waith ei weledigaeth arbennig ei hun - daw i’r sawl sy’n ymroi i wasanaeth dros ei Arglwydd gyfle arbennig i weld Iesu. Y mae rhai pethau na fedrwch chi mo’u deall nhw heb garu - amod deall yw caru. Ond, mae rhai pethau - pethau mawr ysbrydol a thragwyddol - na fedrwch chi mo’u deall nhw heb weithio! Amod y deall yw’r gweithio. Trwy wasanaeth y deellir. Bob tro y mae pobl Crist yn dal ar ystyr gwaith a gwasanaeth Cristnogol yr ydym yn derbyn golwg newydd -gwerthfawrogiad newydd - o Iesu, ein Harglwydd. Y mae pob mymryn o waith a wneir er mwyn Iesu a thros Iesu, yn dyfnhau’n hadnabyddiaeth o Iesu. Y mae gwaith yn addoliad - y mae ymegnio’n foliant, y mae llafurio’n weledigaeth, y mae gwasanaeth yn ddatguddiad.
Diolch am gyfarfod hyfryd iawn. Yng nghyfarfod olaf y gyfres byddwn yn bwrw golwg dros amrywiol bortreadau a dehongliadau o Atgyfodiad ein Harglwydd Iesu.