Dysg i mi dy ffordd, O Arglwydd (Salm 27:11a)
Taith yw’r Grawys. Taith anodd yw hi - taith hir, dros dir diffaith, caled, cras. Buasai’r fath daith yn amhosibl heb ffynhonnau. O amgylch ffynhonnau’r daith tyf palmwydd, a gwyrddni. Mae yma bopeth sydd angen i’n hadnewyddu ar ein taith - dŵr, cysgod o lygad crasboeth yr haul, a ffrwythau’r palmwydd yn fwyd.
Amhosibl fyddai teithio taith y Grawys heb y llecynnau hyn.
Mae Duw yn gofalu amdanom, ac yn ei hadnewyddu. Hanfod pob gwerddon yw gorffwys ac adnewyddiad.
Os gwyddoch am yr angen am orffwys wedi blinderau’r daith, neu os gwyddoch am rywun sydd heddiw mewn angen am adnewyddiad corff ac enaid, beth am gynnau cannwyll gweddi, a chyflwyno hwy, neu’ch hunain i ofal Duw?