Edrychwn ymlaen at yr Oedfa Foreol Gynnar (11/3 am 9:30 yn y Festri). Dathlwn Sul y Mamau gan ystyried, trwy gyfrwng amrywiol adnodau a delweddau, rhyfedd a ryfeddol gariad ‘Duw cariad yw’. Bydd cyfle i gyfrannu tuag at Fanc Bwyd Caerdydd yn ystod y dydd a bydd brecwast bach a nwyddau Masnach Deg yn y Festri rhwng y ddwy Oedfa Foreol.
Yn yr Oedfa Foreol (10:30) bydd ein Gweinidog yn cyflwyno mam Ichabod (1 Samuel 4:19-22; 6:1 a 7:12), cyn mynd â ni heibio i faen coffa Ebeneser ac ymlaen at fam Immanuel. (Mathew 1:18-24).
Ein braint pnawn Sul (14:30), fel eglwys, fydd cael bod yn gyfrifol am baratoi te i’r digartref yn y Tabernacl, yr Âis.
Liw nos (18:00): Arwyddocâd y ‘Na’ - Diwrnod Rhyngwladol y Merched a hen stori ag iddi neges oesol gyfoes. (Esther 1:1-2:4). Boed bendith ar Oedfaon y Sul.
Bydd ein Diaconiaid yn cwrdd nos Lun. Gofynnwn am arweiniad Duw wrth edrych a threfnu i’r dyfodol.
Cymdeithas Ddiwylliannol Eglwys Minny Street, (13/3; 19:30 yn y Festri): "Eisteddfod yr Arwyddfardd" yng nghwmni Dyfrig Roberts.
Koinônia amser cinio dydd Mercher (14/3): Mae ‘na fwy i bryd o fwyd o gwmpas bwrdd na bodloni’r archwaeth am fwyd. Mae’n gyfle i rannu syniadau, i drafod, i gymdeithasu a dod i nabod ein gilydd yn well. Dyna sy’n digwydd yn y Koinônia misol.
Nos Fercher (14/3; 19:00-20:30) Cwrdd Chwarter Cyfundeb Dwyrain Morgannwg (yng Nghapel y Tabernacl, Pen-y-bont ar Ogwr): Ymweliad Cyfeillion o Gyfundeb Gorllewin Caerfyrddin. (Pwyllgor Gwaith am 18:30).
Babimini bore Gwener (16/3; 9:45-11:15 yn y Festri): gwên, a chroeso, cwmni a phaned i’r rhieni; ac i’r plantos: hwyl a chân, chwarae a chwerthin. Gorffwysed bendith ar Fabimini. ‘Rydym yn ddyledus i’r rheini sy’n rhoi o’u hamser i gynnal y fenter bwysig hon.