Heidiau ohonynt; llifant dros bob ffin a ffens. Bygythiad ydynt i’n ffordd o fyw. Mae caer Ewrop o dan warchae'r minteioedd cryf. I amddiffyn ein safonau byw, i’r gad yr awn...
Ond, o’r gad y dônt...daeth y mwyafrif o’r 'mewnfudwyr' sydd wedi cyrraedd Ewrop eleni o Afghanistan, Eritrea, Somalia a Syria - meysydd cad bob un. Nid mewnfudwyr mohonynt mewn gwirionedd, ond ffoaduriaid. Fe ddônt o reidrwydd nid o wirfodd.
Mae Cytundeb y Cenhedloedd Unedig yn diffinio mewnfudwr fel hyn: 'where the decision to migrate is taken freely...and without intervention of an external compelling factor'. Mae’r diffiniad hwn yn amlygu’r gwahaniaeth allweddol pwysig rhwng mewnfudwyr a ffoaduriaid. Nid llif o fewnfudwyr sydd, ond argyfwng dyngarol.
Fe ddônt i Ewrop, oherwydd iddynt gredu fod yma ddemocratiaeth war; diogelir yma, i bawb yn ddiwahân, hawliau dynol, diogelwch a chyfle i fod yn ddedwydd. Credant fod hyn yn wir, gan fod y diwylliant Gorllewinol wedi dyfal daeru mai dyma sy’n wir amdanom: gwych a gwar ydym; gobaith byd.
Fe ddônt i Ewrop, oherwydd iddynt gredu ein broliant. Fe ddônt gan obeithio fod i’r broliant sylwedd.
Mynegwyd y cyfan yn gymen, gan Alessandro Bechini, Cyfarwyddwr Oxfam yn yr Eidal: 'Refugees fleeing persecution need safe and legal avenues for claiming asylum. These are principles to be upheld, not empty statements to be ignored in favour of building a more fortified Europe.'
Fe ddônt, ac wrth ddod gosodant brawf - o bosib iawn y prawf terfynol - ar yr hyn yw’r Diwylliant Gorllewinol yn ei hanfod. Yn ein hymateb i’r ffoaduriaid hyn, amlygir beth ydym, a beth allem fod.
(OLlE)