'DEUGAIN A DEG' - TYMOR Y PASG (41)

‘Cenhadaeth Pedr’, Raffaello Sanzio da Urbino (Raphael) (1483-1520)

Mae’r darlun gwreiddiol yn y Victoria and Albert Museum yn Llundain. Un ydyw o’r deg braslun a beintiwyd fel rhan o gomisiwn enfawr gan y Pab Leo X am ddeg tapestri enfawr i Gapel Sixtus, y Fatican. Mae neges y braslun hwn yn glir a chadarn: 11 disgybl, Pedr ar ei luniau, a’r Crist byw cyhyrog â'i law chwith yn cyfeirio at y Pysgotwr Mawr (sylwch ar yr allwedd fawr yn llaw Pedr; Mathew 16:19), â’i law dde yn cyfeirio at y defaid a’r ŵyn: "Portha fy ŵyn."

"Simon fab Ioan, a wyt ti’n fy ngharu i yn fwy na’r rhain?" Atebodd (Pedr), "Ydwyf, Arglwydd, fe wyddost ti fy mod yn dy garu di." Meddai Iesu wrtho, "Portha fy ŵyn." (Ioan 21:15 BCN)

Caru a Gwasanaethu. I’r ddau air hyn cywesgir holl ddyletswydd y Cristion, a thrwyddynt diffinnir ystyr ein Ffydd. Mater o garu a gwasanaethu yw dilyn Crist - dyma swm a sylwedd ei Efengyl fawr - dyma ei deunydd hi a dyma ei dull hi, a dyma ei gogoniant a’i gwyrth hi.

"Portha fy ŵyn." Ein dyletswydd gyntaf ni os ydym yn caru’r Arglwydd Iesu Grist yw ymboeni am y to sy’n codi. Maint ein gofal am y to sy’n codi yw maint ein cariad ni at Grist. "Portha fy ŵyn." - ein dyletswydd ni yw honno. Nid dyletswydd yr awdurdod addysg, nid cyfrifoldeb y wladwriaeth les, nid baich llywodraeth gwlad; ni allwn ddirprwyo’r baich hwn i neb. Gall ein hysgolion ddysgu crefydd i’n plant, ond ni allant ddysgu Crist. Nyni biau’r dasg hon, nyni a gafodd y gwaith hwn i’w gyflawni. Nid yw’r peth sanctaidd hwnnw a elwir yn ‘blentyn’ yn gwbl ddiogel heb ofal eglwys a’i phobl. Porthi ŵyn yw’r hawl cyntaf ar ein hegni a’n meddwl a’n calon.

F’Arglwydd Iesu Grist, fab Duw, Waredwr, bydd drugarog wrthyf. Amen

(OLlE)