MINNY STREET A YOM KIPPUR

Diolch i bawb a ddaeth ynghyd heno i ‘Minny Street a Yom Kippur’. Iddewon a’i peidio, mae neges Yom Kippur - the Day of Atonement - yn bwysig i bob perchen ffydd: rhaid ystyried sut orau i fod ‘At One’ â’n hunain, ein gilydd ac â Duw. Testun ein sylw oedd Edith Stein (1891-1942)

Y GYMDEITHAS

Noson agoriadol ein Cymdeithas Ddiwylliannol: M. Wynn Thomas yn cyflwyno hanes 'The History of Wales in Twelve Poems'. Cawsom ragwelediad newydd i ddiben a gwerth y trysor hwn o gyfrol; y cyfan wedi'i gyflwyno'n ddifyr a hwyliog. Diolch i bawb.

PIMS

PIMS 28ain o Fedi

Llun 1 - Cynfas PIMS am weddill y flwyddyn.

Llun 2 - Ein ‘celfyddyd’ cyntaf.

Llun 3 - Neges y noson.

Diolch i bawb!

TAITH I’R GOGLEDD #3

Ffarwelio â Phlas Tan y Bwlch ac ymlaen i'r Ysgwrn; mawr ddiolch i Elsa a'r staff i gyd am y fath groeso cynnes. Elim, Llanddeiniol, Aberaeron ac adref. Diolch i bawb a fu ynglŷn â'r holl drefniadau