DATHLU A DIOLCH

Nodyn gan ein Gweinidog wedi dathlu ohono ugain mlynedd o weinidigaeth yn eglwys Minny Street, Caerdydd.

“Pan fydd pobl yn gofyn i mi yn y dyfodol, 'Beth yw eglwys?', bydd fy ateb yn glir a phendant. Dywedaf 'Tyrd a gwêl. . .', ac fe arweiniaf yr holwr i eistedd yng nghymdeithas eglwys dda Minny Street. Bendith arnoch am i chi rhoi cymaint, a'm helpu innau i ddysgu derbyn.”

Diolch i bawb a fu ynglŷn â’r paratoi. Cafwyd bore hapus.

Y SUL

Yfory 9:30 (YS), nodir ugain mlynedd o weinidogaeth Owain Llŷr yn ein plith. Bydd ganddo bregeth ugain pen ar ein cyfer! ☕️

Ein Hoedfa Hwyrol (18:00 Z): y Parchedig Jill-Hailey Harries. Edrychwn ymlaen at groesawu cyfeillion o eglwysi Cymraeg eraill y ddinas i’r Oedfa.☕️

EIN HOEDFA FOREOL

Mona Lisa yn dangos y ffordd o 'gaethiwed yr oriel' i 'rhyddid y stryd' - allan, gyda phobl a thros bobl - y mae ein gwasanaeth a'n gweinidogaeth ar ei orau. Diolch i bawb a fu ynglŷn â'r brecwast a golchi llestri!

CAFFI CELF #1

11:30 yn y Festri: cyfle i ystyried tri darn o gelfyddyd: y cyntaf gan y ffotograffydd Henri Cartier-Bresson; yna darn o wydr crisial o Fenis yr unfed ganrif ar bymtheg ac i gloi gwaith John Lund: anobaith; breuder a dycnwch. Bregus ydym - hawdd felly anobeithio - ond fe berthyn i ni ddycnwch syfrdanol: mae pobl yn wydn, gan fod gennym ffydd yn Nuw ... ac oherwydd bod gan Dduw ffydd ynom ni. Wedi'r trafod, myfyrio a gweddïo, lluniaeth ysgafn cyn troi am adref.

TAITH GERDDED OWAIN LLŶR

Ein taith gerdded heddiw: o siomedigaeth fawr William Burges i eliffantod Montague Burton; o ddarn bychan o wal fawr at res o dai yng nghesail Womanby Street; gorffen gyda hanes Gwyn Nicholls a'r gatiau coffa. Bu'r Angel yn hael ei chroeso am baned a sgwrs ymhellach cyn troi am adref. Diolch i bawb.