‘O DEUWN OLL YNGHYD …’

Bore Sul 17/10 10:30 capel a Z. Ysgol Sul.

Oedfa Amgylcheddol mis Hydref.

🌍 = Cartref; Crwn; Cyfrifoldeb.

Boed bendith a mwynhad.

Nos Sul am 18:00

Tlodi: yn y tlodi - yr ymddihatru, y gwagio, y colli - y deuaf i berthynas iach â Duw, ac o’r herwydd â fi fy hun ac â thi a chi. Ystyriwn hyn oll ynghyd destun Lefi (Luc 5:27-32)

Echel ein cyfnod o weddi a gweddïo fydd y 167 awr sy’n weddill o’r wythnos.

‘O DEUWN OLL YNGHYD …’

Bore Sul 10fed o Hydref

Oedfa Gynnar am 9:30.

1, 2 a 3 neu 1?

Liwiau’r Cread 🌍

Neges yr Afal 🍎

Boed hwyl a bendith!

Nos Sul 10fed o Hydref

Luc 5:27-32

Luc 4:31-37

Philipiaid 2:1-11

1 Corinthiaid 12:12-31

Tlodi: yn y tlodi - yr ymddihatru, y gwagio, y colli - y deuaf i berthynas iach â Duw, ac o’r herwydd â fi fy hun ac â thi a chi.

Echel ein cyfnod o weddi a gweddïo fydd ‘Elid am-daw amdanad’.

Boed bendith.

‘O DEUWN OLL YNGHYD …’

Bore Sul , Hydref 3ydd am 10:30 (capel a ‘Z’).

Greddf ‘ych-a-fi’ a lletygarwch melyn Duw.

Luc 10:25–37 a Salm 139.

Cynhelir Ysgol Sul.

Nos Sul; Oedfa Gymundeb am 18:00.

Effesiaid 3:18-19

Lled a hyd ac uchder a dyfnder cariad Duw: y cyfan oll o’r oll yn gyfan mewn tamaid o fara a diferyn o win!

Boed bendith.

‘O DEUWN OLL YNGHYD … Adrodd ein Storïau’

Rydym wedi peidio adrodd storïau, ein storïau; fy stori. Yr oedd i’r Cyfarwydd - yr adroddwr storïau - le amlwg ym myd y Cymry unwaith: Yntau, Gwydion, oedd y chwedlonwr gorau yn y byd. Y mae angen i ni fod yn Wydion i’n henaid a’n calon. Adrodd storïau ein byw a’n bywyd, ac o wneud hynny ddirnad gwraidd ein poen a’n gwendid, ein hafau a’n gaeafau, y du a’r golau; dirnad y mannau Gras a’r lleoedd y bu i ni brofi Ffydd, Gobaith a Chariad. Dyma fydd thema ein Hoedfa Gymundeb bore Sul.

Darlleniadau’r Oedfa:

Salm 42

2 Corinthiaid 11: 22-30

Mathew 14:22-33

Genesis 32:22-32

Luc 15:11-32

Er bod Cymru bellach ar Lefel Rhybudd 0 nid ydym wedi cyrraedd sefyllfa lle gallwn roi heibio pob mesur amddiffyn. Mae gwisgo gorchudd wyneb mewn llefydd cyhoeddus dan do yn parhau yn anghenraid cyfreithiol ac mae’r angen i gynnal asesiad risg penodol a chymryd camau rhesymol i leihau unrhyw gysylltiad â’r feirws ynghyd â’i ledaeniad yn meddwl ein bod, am y tro, yn parhau i gadw at ganllawiau cadw pellter cymdeithasol a sicrhau hylendid dwylo. Rhaid felly parhau i ddilyn y cyfarwyddiadau manwl a ddosbarthwyd i’r aelodau. Gan na fydd pawb o’n haelodau mewn ffordd i ystyried mynychu’r addoliad yn y capel, parhawn hefyd gyda’r trefniant sydd yn ein galluogi i ddilyn yr addoliad trwy gyfrwng Zoom.

Dyma gip olwg ar weddill mis Medi

Dyma gip olwg ar weddill mis Medi