Rydym wedi peidio adrodd storïau, ein storïau; fy stori. Yr oedd i’r Cyfarwydd - yr adroddwr storïau - le amlwg ym myd y Cymry unwaith: Yntau, Gwydion, oedd y chwedlonwr gorau yn y byd. Y mae angen i ni fod yn Wydion i’n henaid a’n calon. Adrodd storïau ein byw a’n bywyd, ac o wneud hynny ddirnad gwraidd ein poen a’n gwendid, ein hafau a’n gaeafau, y du a’r golau; dirnad y mannau Gras a’r lleoedd y bu i ni brofi Ffydd, Gobaith a Chariad. Dyma fydd thema ein Hoedfa Gymundeb bore Sul.
Darlleniadau’r Oedfa:
Salm 42
2 Corinthiaid 11: 22-30
Mathew 14:22-33
Genesis 32:22-32
Luc 15:11-32
Er bod Cymru bellach ar Lefel Rhybudd 0 nid ydym wedi cyrraedd sefyllfa lle gallwn roi heibio pob mesur amddiffyn. Mae gwisgo gorchudd wyneb mewn llefydd cyhoeddus dan do yn parhau yn anghenraid cyfreithiol ac mae’r angen i gynnal asesiad risg penodol a chymryd camau rhesymol i leihau unrhyw gysylltiad â’r feirws ynghyd â’i ledaeniad yn meddwl ein bod, am y tro, yn parhau i gadw at ganllawiau cadw pellter cymdeithasol a sicrhau hylendid dwylo. Rhaid felly parhau i ddilyn y cyfarwyddiadau manwl a ddosbarthwyd i’r aelodau. Gan na fydd pawb o’n haelodau mewn ffordd i ystyried mynychu’r addoliad yn y capel, parhawn hefyd gyda’r trefniant sydd yn ein galluogi i ddilyn yr addoliad trwy gyfrwng Zoom.
Dyma gip olwg ar weddill mis Medi