Pos wythnosol.
Ffordd hawdd a hwyliog i ehangu ein gwybodaeth Feiblaidd.
Daw'r ateb am 20:30.
Pa adnod NAD sydd yn perthyn i’r gweddill, a pham?
Your Custom Text Here
Pos wythnosol.
Ffordd hawdd a hwyliog i ehangu ein gwybodaeth Feiblaidd.
Daw'r ateb am 20:30.
Pa adnod NAD sydd yn perthyn i’r gweddill, a pham?
‘Minny'd’?
Myfyrdod sydyn syml yw 'Minny'd'.
Er mai dim ond munud sydd angen i'w ddarllen, mawr obeithiwn y bydd y neges yn aros gyda chi yn hirach o dipyn.
MICHAL
2 Samuel 6: 16-23
‘Roedd Michal, merch ieuengaf Saul, wedi syrthio mewn cariad â’i arwr ifanc, Dafydd. Gwelodd Saul ei gyfle. Os oedd Dafydd am briodi Michal, ‘roedd angen rhodd briodas - cant o flaengrwyn! Syniad a bwriad Saul oedd peri i Dafydd farw ar faes y gad. Llwyddodd Dafydd a phriododd Michal. ‘Roedd pawb wedi dotio arno. ‘Roedd cenfigen Saul yn prysur droi’n gasineb.
Un noson danfonodd Saul filwyr i amgylchynu tŷ Dafydd a Michal. Rhybuddiodd Michal ei gŵr, a thwyllo’i thad a’i filwyr gan roi amser i Dafydd ddianc. ‘Roedd Saul byth a hefyd yn ceisio’i rwydo a’i ladd. O dipyn i beth penderfynodd Saul dorri’r briodas: "Yr oedd Saul wedi rhoi ei ferch Michal, a fu’n wraig i Ddafydd, i Palti fab Lais" (1 Samuel 25: 44). Yn wleidyddol, ‘roedd y peth yn gwneud synnwyr. Yn gweld ei deyrnas yn gwywo, symudodd Saul fôr a mynydd i sicrhau’r orsedd i’w fab Jonathan.
Ond bu farw Saul a Jonathan ar faes y gad; hawliodd Dafydd yr orsedd wag. Erbyn hyn ‘roedd Michal yn byw yn ddiogel a dedwydd gyda Palti yn Nheyrnas y Gogledd. Yma, ’roedd Ishbosheth, mab Saul yn teyrnasu. Mynnodd Dafydd gael Michal yn ôl a’i chymryd oddi wrth Palti. "Dilynodd ei gŵr yn wylofus ar ei hol ..." (2 Samuel 3:16). Mae’r geiriau hyn yn mynegi’n gryno poen a gofid y gwahanu. Naturiol, felly, yw’r chwerwedd sydd mor amlwg yn y darlleniad uchod. Mae awdur Llyfrau Samuel, wrth ddisgrifio berw a chyffro esgyniad Dafydd i’r orsedd, yn ein hannog i gofio fod cariad a bywyd pobl fel Michal a Palti wedi syrthio i fagl gwleidyddiaeth grym y cyfnod.
Yng nghyd-destun profiad Michal a Dafydd, trafodwch arwyddocâd y ddihareb: Ni ellir hau drain a disgwyl medi grawnwin.
Dysg i mi dy ffordd, O Arglwydd, ARWAIN FI AR HYD LLWYBR UNION.
(Salm 27:11a)
Taith yw’r Grawys. Mae Jerwsalem o’r diwedd, yn agos. Wedi gorfod dilyn hen lwybr araf, hir ac anodd, erbyn heddiw mae'r ffordd yn haws ei cherdded.
Mor hawddgar yw dy bebyll di, O ARGLWYDD y lluoedd! Fy enaid a hiraetha, ie, ac a flysia am gynteddau yr Arglwydd; fy nghalon a’m cnawd a waeddant am y Duw byw (84:1&2).
Diolch i’r Salmydd am y geiriau, ac am y cyfarwyddyd. Pererin o Iddew ydyw yn y salm hon, ar ei ffordd i un o’r gwyliau crefyddol yn Jerwsalem, ac yn dod, o’r hir ddiwedd, i olwg y deml, a’r olygfa’n peri iddo lonni drwyddo!
Ydi, mae’r ffordd yn haws erbyn hyn, ond ar y ffordd hawdd, syth, y demtasiwn o hyd yw rhuthro a charlamu; mynnu mae symud yn gyflym yw’r alwad, cyrraedd yn yr amser byrraf posib!
Ar daith y Grawys, mae’n werth cymryd pwyll bob amser. Mae’n bwysig i ni ymbwyllo, er byrred y daith ac er sythed y ffordd bellach. Nid ar frys y ceir gorau’r Grawys.
Bu’r daith yn hir, ond pwyll ac amynedd piau hi.
Beth am gynnau cannwyll gweddi, a gofyn am gymorth Duw i ymdawelu, i ymbwyllo, i ymlonyddu ac i ymagor i rin llonyddwch mawr ein Duw? Nid ar frys y ceir gorau Duw.
Diolch i bawb a ddaeth ynghyd i'r Oedfa Foreol.
Penderfynwyd CYNNAL ein Hoedfa Hwyrol (18:00).
Testun homili ein Gweinidog fydd: Hon, hon a hwn - ‘Galar’; ‘Gobaith’; ‘Gwefr’.
Felly, os mae’n ddiogel i chi fentro allan estynnir croeso calon i chi i ynuno â ni yn ein haddoliad.
Daeth yr eira eto i Gaerdydd a’r cyffiniau.
Er hynny, mae’n fwriad gennym i gynnal ein Hoedfa Foreol am 10:30.
Felly, dim ond os mae’n ddiogel i chi fentro allan estynnir croeso calon i chi i ynuno â ni yn ein haddoliad.
Daw penderfyniad parthed yr Oedfa Hwyrol ar ôl cinio.
‘... eira’n drwm o fryn i dref ...’
Daw neges ym mhen yr awr ynglŷn â natur a threfn ein Hoedfaon heddiw.
Bydd Oedfaon y Sul dan arweiniad ein Gweinidog. Bore Sul (10:30) bydd Owain yn ymdrin ag ymdaith Iesu i mewn i Jerwsalem drwy gyfrwng llun gan Benjamin Robert Haydon (1786-1846) a’r Groglith trwy gyfrwng stori fer gan Leonid Andreyev (1871-1919). Cynhelir Ysgol Sul.
Liw nos yn yr Oedfa Hwyrol: Gobaith, Galar a Gwefr. Gan ddechrau’n brydlon am 18:00 awn am dro i’r Unol Daleithiau i ddechrau - i Washington - er mwyn cael trafod ‘Gobaith’ a ‘Galar’. Byddwn yn ymweld hefyd â berw’r Niagra fawr a darganfod yno cyfrinach 'Gwefr' yr Atgyfodiad. Byddwn wedi dychwelyd yn ddiogel erbyn 19:00!
Bydd y gymdeithas yn parhau yn Koinônia: swper blasus a sgwrs ddifyr mewn bwyty Eidalaidd cyfagos.
Nos Lun (19/3; 19:00-20:30) - PIMS
Nos Fawrth (20/3; 19:30-20:30): ‘Bethania’. Echel ein trafodaeth eleni yw ‘Pobl yr Hen Destament’. Parhawn gyda MICHAL (2 Samuel 6: 16-23). Darperir nodiadau ‘Bethania’ rhag blaen ar y wefan hon bore dydd Llun.
Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd nos Iau (22/3: 19:30): Myfyrdod y Grawys 3 yn Eglwys Dewi Sant dan arweiniad Mari McNeill. Gweddïwn am wenau Duw ar waith a chenhadaeth Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd.
Bore Gwener (23/3; 10:00): ‘Llynyddwch’. Paned wrth ymyl llyn llonydd y Rhath. Yn Terra Nova cawn gyfle i drafod, fesul pennod, llyfr Samuel Wells: How then shall we live (Canterbury, 2016). Echel ein trafodaeth fore Gwener fydd Childhood (t.78-84).
Bore Gwener (23/3; 10:30-11:30) Bore Coffi er budd Dydd Gweddi Byd-eang y Chwiorydd. Bu’n rhaid gohirio’r gwasanaeth yn Eglwys y Crwys pnawn Mawrth 2ail oherwydd y tywydd. Trefnir bore coffi yn festri Eglwys y Crwys lle, yn ogystal â chasgliad er budd Dydd Gweddi Byd-eang y Chwiorydd bydd bwrdd teisennau hefyd i hybu gwaith yr elusen ledled y byd. Cyflwynir rhan o wasanaeth Dydd Gweddi Byd Eang y Chwiorydd yn ystod y bore.