Canu Mawl
YN ANAD UN (7)
Pos wythnosol.
Ffordd hawdd a hwyliog i ehangu ein gwybodaeth Feiblaidd.
Gwahanol ac anoddach yr wythnos hon!
Pedair adnod, dau air.
Os yn gywir gennych, gellid ffurfio dau air, un o lythrennau cyntaf, a’r llall o lythrennau olaf y pedwar uchod.
Daw'r ateb am 20:30.
MINNY’D (24): GWNA GYFIAWNDER Â MI.
‘Minny'd’?
Myfyrdod sydyn syml yw 'Minny'd'.
Er mai dim ond munud sydd angen i'w ddarllen, mawr obeithiwn y bydd y neges yn aros gyda chi yn hirach o dipyn.
'BETHANIA': POBL YR HEN DESTAMENT
‘Hanna yn y Deml’ gan Rembrandt (1606-1669)
HANNA
1 Samuel 2: 1-10
Gwelsom y peth o’r blaen ... diflastod rhwng Sarai a Hagar. Y tro hwn, Peninna, mam Elcana’r Effraimiad sydd byth a hefyd yn gwawdio Hanna. ’Roedd Hanna heb blant. Eto, daeth dydd pan anwyd mab i Hanna. Chwerthin gwnaeth Sara, canu mae Hanna, nerth ei llais - cân o orfoledd a diolchgarwch, bwrlwm o fawl. Hanna’n canmol Duw am ei drugaredd, Duw sy’n troi’r byd â’i ben i waered, Duw'r chwyldroadau mawr.
Pa ots prun ai Hanna ei hun a gyfansoddodd y geiriau neu rywun arall, ymhen blynyddoedd, a osododd y geiriau yn ei genau. Mae’r gwirionedd sydd yn y gân wedi aros drwy’r oesau, hyd ein dydd ni.
Do, gwrandawyd ei chwyn, atebwyd ei gweddi, a chyflawnodd hithau ei haddewid. Gyda Samuel yn ddigon hen i fwydo a gwisgo’i hun, aeth Hanna â’r un bach i Seilo at Eli a’i fenthyg i Dduw.
Arferai Hanna o flwyddyn i flwyddyn fynd i weld Samuel. Byddai’n mynd â chot newydd hardd iddo bob tro, bob un fymryn yn fwy na’r olaf. Ychydig a wyddom amdani ar ôl hyn, dim byd mwy nag iddi ddychwelyd gyda Elcana i’w chartref a bod iddynt dri o feibion a dwy o ferched.
- Briw a chur, gwobr ei chariad meddai J.H.Roberts am Mair, mam Iesu; trafoder hyn yng nghyd-destun bywyd a phrofiad Hanna.
- Cymharer gân Hanna ag Emyn Mawl Mair (Luc 1: 46-55).
EIN HOEDFA HWYROL
Diolch i bawb a ddaeth ynghyd i'r Oedfa Foreol.
Penderfynwyd CYNNAL ein Hoedfa Hwyrol (18:00).
Testun homili ein Gweinidog: Gwyn ei byd y genedl y mae yr Arglwydd yn Dduw iddi. (Salm 33:12a)
Glendid; gwaddol a gweinidogaeth fydd tri phen ein myfyrdod.
TRYDYDD SUL Y GRAWYS
Dysg i mi dy ffordd, O Arglwydd (Salm 27:11a)
Fel hyn y dywed yr ARGLWYDD: Safwch ar y ffyrdd; edrychwch, ac ymofyn am yr hen lwybrau. Ple bynnag y cewch ffordd dda, rhodiwch ynddi, ac fe gewch le i orffwys (6:16)
Diolch i Jeremeia am y geiriau, ac am y cyfarwyddyd.
Oedwn heddiw ac ymofyn am yr hen lwybrau. Gwneud cam â’r ymadrodd yr hen lwybrau yw rhoi’r argraff bod Jeremeia’n rhoi gwerth ar yr hen, dim ond am ei fod yn hen. Na, galw mae’r proffwyd am adfer symledd i grefydd fel yr unig ffordd ymlaen. Symledd yr hen berthynas agos â Duw yn nyddiau’r daith trwy’r anialwch sydd yn ei feddwl - Duw â’i bobl yn cydgerdded.
Nid cynnydd yw colli symlrwydd. Yng nghanol annibendod di-ben-draw ein cyfnod a’n profiad, cynnig symlrwydd bendigedig mae Efengyl Iesu Grist.
Os gwyddoch beth yw ymofyn am yr hen lwybrau. Os gwyddoch am rywun sydd yn heddiw’n sefyll wrth groesffordd mewn bywyd, beth am gynnau cannwyll gweddi, a chyflwyno hwy, neu’ch hunain i ofal Duw?
'YMLAEN': Y SUL A'R WYTHNOS NEWYDD
Daeth yr eira’n drwch i Gaerdydd a’r cyffiniau! Bu’n rhaid gohirio ein cinio Gŵyl Ddewi a ‘Cyngerdd a Chacen’ gwaetha’r modd OND mae’n fwriad gennym i gynnal ein Hoedfa Foreol am 10:30. Gweinyddir y Cymundeb; bydd natur a threfn yr Oedfa yn dibynnu i raddau helaeth ar bwy all ddod ynghyd. Felly, os mae’n ddiogel i chi fentro allan bore Sul, estynnir croeso calon i chi i ymuno â ni yn ein haddoliad. Gwneir penderfyniad parthed yr Oedfa Hwyrol bore Sul.
Nos Lun (5/3; 19:00-20:30) PIMS.
Nos Fawrth (6/3; 19:30-20:30): ‘Bethania’. Echel ein trafodaeth eleni yw ‘Pobl yr Hen Destament’. Parhawn gyda HANNA (1 Samuel 2: 1-10). Darperir nodiadau ‘Bethania’ rhag blaen ar y wefan hon bore dydd Llun.
Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd nos Iau (8/3: 19:30): Myfyrdod y Grawys 2 yng Nghanolfan y Conglfaen (Cornerstone), Heol Siarl dan arweiniad Carys Whelan. Gweddïwn am wenau Duw ar waith a chenhadaeth Cyngor Eglwysi Cymraeg Caerdydd.
MINNY’D (23): MEWNFUDWR O FLODYN!
‘Minny'd’?
Myfyrdod sydyn syml yw 'Minny'd'.
Er mai dim ond munud sydd angen i'w ddarllen, mawr obeithiwn y bydd y neges yn aros gyda chi yn hirach o dipyn.
