Os oes gennych Feibl wrth eich penelin, trowch os gwelwch yn dda i Lyfr Ruth, i'r bennod gyntaf. Awn drwyddi gan ganolbwyntio ar ambell adnod yn benodol:
Ruth 1:17
Ni chafwyd enghraifft well erioed o deyrngarwch na geiriau Ruth wrth Naomi. Ni fyn gael ei gwahanu mewn na bywyd na marwolaeth. Er mai syniad cyntefig a geir yma o berthynas duw â darn o dir, ni thynn oddi wrth gadernid gafael teyrngarwch.
Trwy wneud ei dewis, dangosodd Ruth ostyngeiddrwydd ac awydd i ddysgu gan arall; dangosodd ddewrder wrth ei pharodrwydd i ymollwng oddi wrth gysylltiadau cynefin a chymdogaeth dangosodd benderfyniad di-ildio. Golygai fynd i wlad ddieithr, i amgylchiadau newydd, at bobl a oedd gynt yn elynion ac at Dduw newydd. Yn goron ar y cyfan dywedasai y buasai farw gyda Naomi, fel na fwriadai dychwelyd byth i’w hen gynefin.
Perl heb bris arno yw ffyddlondeb ym mhob cymdeithas, ac nid lleiaf yng nghymdeithas pobl ffydd. Onid cymdeithas o ‘ffyddloniaid’ y gelwir hi weithiau?
Ruth 1:20
Mae geiriau Naomi yn gyson â syniad yr Hen Destament am natur y drwg. Credai’r Hebrëwr fod Duw yn arglwydd ar fywyd i gyd ac ni allai, felly dychmygu gallu, fel y diafol, a gystadlai ag Ef am oruchafiaeth. Er i’r Iddewon ddod i gyffyrddiad â’r Persiaid a chrefydd Soroaster a gredai mewn deuoliaeth, ni dderbyniwyd y ddysgeidiaeth ganddynt. Iddynt hwy ‘roedd honni fod yna dduw Goleuni a Daioni a duw Tywyllwch a Drygioni yn gwbl annerbyniol. Credasant mewn Un Duw, Duw mawr Goleuni a Daioni, Tywyllwch a Drygioni.
Cysylltir Mara o hyd â chwerwder. Mara oedd gorsaf gyntaf yr Israeliaid yn yr anialwch ar ôl croesi’r Môr Coch. Yno y glanhawyd dyfroedd chwerw a chas gan Moses. (Exodus 15:25)
Cawsant orsaf fwy dymunol wedi gadael Mara, a dod i Elim. Yno, ‘roedd 12 ffynnon o ddŵr glân. Bu hyn yn wir yn hanes y Mara hon - Naomi. Er iddi fynnu mae Mara bellach oedd ei hunaniaeth, cafodd brofi hapusrwydd newydd, eto o ganlyniad i deyrngarwch Ruth.
Canaf am yr addewidion -
ar fy nhaith
lawer gwaith
troesant yn fendithion.
(Watcyn Wyn)
Ruth 1:21-22
Credai Naomi i’r Arglwydd fy narostwng. Wynebir trafferth y drwg yn yr Hen Destament gan gydnabod Duw yn arglwydd ar bob peth, da a drwg. Felly. Duw a ddarostyngodd Naomi.
Deil drygioni o hyd yn ddirgelwch, gan na ellir olrhain ei darddiad. Mewn ambell ddiwinyddiaeth Gristnogol, rhoddir lle i’r Drwg, yr Un Drwg, neu’r Diafol fel ffynhonnell y drwg, a’i dadogi i allu tu allan i ddyn/pobl. Os oes gallu er da (Duw), pam na ellid cael gallu er drwg (Diafol)? Ond, myn ambell ddiwinyddiaeth Gristnogol arall, na ellid sôn am allu er drwg gan fod pob gallu yn ddarostyngedig i Dduw.
Efallai fod dehongliad arall yn bodoli yn y tensiwn rhwng y ddau argyhoeddiad uchod. Rhaid gwahaniaethu rhwng yr hyn a ganiatâ Duw a’r hyn a ewyllysia. Nid Duw sydd yn gyfrifol am y drwg - nid dyna ei ewyllys - ond er mwyn diogelu rhyddid ein hewyllys, rhaid iddo ei ganiatáu. Ei gamp yw cynnal a chadw pobl a chreadigaeth yn, a chyda'r cariad na allasai byth ewyllysio drwg, ond sydd yn gorfod bob amser ei ganiatáu.